Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Adfer gwasanaeth tr锚n rhwng gogledd a de Cymru yn gynnar
Mae trenau uniongyrchol rhwng gogledd a de Cymru wedi ailddechrau ddydd Sadwrn ar 么l i'r gwaith o adfer y rheilffordd gael ei gwblhau yn gynnar.
Fe wnaeth llifogydd achosi difrod i'r sylfaen o dan y traciau ger Henffordd y penwythnos diwethaf.
Doedd dim modd i drenau redeg rhwng Y Fenni a Henffordd am bron i wythnos oherwydd hynny, gyda bysiau'n rhedeg yn eu lle.
Mae'r gwasanaeth wedi cael ei adfer ddydd Sadwrn, ond mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio y gallai fod oedi oherwydd cyfyngiadau cyflymder yn yr ardal.
Y bwriad yn wreiddiol oedd ailagor y llwybr ddydd Llun, ond dywedodd Network Rail fod peirianwyr wedi llwyddo i orffen y gwaith o'i adfer ddeuddydd yn gynnar.
Fe wnaeth y cwmni ddiolch i deithwyr am eu hamynedd tra'u bod yn gweithio ar y trac.
'Gweithio'n ddiflino'
Dywedodd Chris Howchin o Network Rail ei fod "ar ben fy nigon" eu bod wedi gallu "adfer cyswllt rheilffordd allweddol i Gymru a'r Gororau" yn gynt na'r disgwyl.
"Mae'r t卯m cyfan wedi gweithio'n ddiflino mewn tywydd anodd ac mae'n ganlyniad gwych i deithwyr," meddai.
Cafodd y difrod ei achosi mewn tywydd garw y penwythnos diwethaf, wedi i rybudd oren am law trwm fod mewn grym ar gyfer nifer o ardaloedd.