Johnson yn gwrthod ateb galwad diswyddo ymgeisydd Ceidwadol
- Cyhoeddwyd
Mae Boris Johnson wedi gwrthod ymateb i gwestiwn a ddylid diswyddo ymgeisydd y Blaid Geidwadol ar gyfer sedd Bro Morgannwg yn etholiad nesaf y Cynulliad.
Cafodd Ross England ei ddewis fel ymgeisydd y Ceidwadwyr wyth mis wedi i farnwr yr Uchel Lys ei gyhuddo o ddymchwel achos yn ymwneud 芒 threisio yn fwriadol.
Dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n "amhriodol i mi wneud sylw ynghylch achos cyfreithiol sy'n parhau" - ond mae'r achos wedi dod i ben.
Fe gafwyd y diffynnydd yn yr achos, James Hackett, a oedd yn ffrind i Mr England, yn euog o dreisio maes o law mewn achos newydd.
'Anhygoel'
Roedd Mr England yn rhoi tystiolaeth mewn achos llys ym mis Ebrill 2018 pan wnaeth honiadau am hanes rhywiol y dioddefwr - honiadau mae'r achwynydd yn eu gwadu.
Cafodd ei ddewis gan y Ceidwadwyr i geisio sicrhau sedd Bro Morgannwg yn y Cynulliad yn 2021 ym mis Rhagfyr.
Mae Mr England wedi gweithio i Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac AS Bro Morgannwg, yn ei swyddfa etholaethol.
Cafodd yr achos ei godi ddydd Mercher gan AS Llafur Canol Caerdydd, Jo Stevens yn ystod sesiwn wythnosol holi'r Prif Weinidog yn San Steffan.
Dywedodd Ms Stevens: "Ddoe, roedd yna adroddiadau fod cyn aelod o staff Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Ross England, wedi - yng ngeiriau barnwr llys barn - wedi llwyddo ar ei ben ei hun ac yn fwriadol i ddymchwel prawf mewn achos o dreisio trwy gyfeirio at hanes rhywiol y dioddefwr yn groes i gyfarwyddiadau'r barnwr.
"Bu'n rhaid atal yr achos, ailddechrau o'r newydd ac fe gafwyd y diffynnydd yn euog.
"Yn anhygoel, aeth y blaid ymlaen i ddewis Mr England fel ymgeisydd ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol gyda chymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol. Ydy'r prif weinidog am ddiswyddo Mr England?"
Atebodd Mr Johnson: "Fyddai'n amhriodol i mi wneud sylw ar achos cyfreithiol sy'n parhau."
Mae'r achos llys wedi dod i ben.
Mae'r Blaid Geidwadol yng Nghymru wedi methu hyd yma ag ymateb i sawl cais gan 91热爆 Cymru am ymateb.
'Yr holl achos yn drewi'
Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood hefyd yn galw am ddad-ddewis Mr England yn syth.
"Mae'r holl achos a gweithredoedd y Ceidwadwyr yn drewi," meddai.
Mae Mr England yn mynnu iddo "gydymffurfio'n llwyr gydag amodau'r llys cyn ac ar 么l yr achos".
Dywedodd Golygydd Gwleidyddol 91热爆 Cymru, Felicity Evans: "Gall yr amseriad ddim fod yn waeth i'r Ceidwadwyr Cymreig.
"Mae'n codi cwestiynau difrifol ynghylch manyldeb eu trefniadau dewis ymgeiswyr ar yr union adeg maen nhw'n gofyn i chi bleidleisio dros ymgeiswyr mewn etholiad cyffredinol maen nhw wedi eu dewis.
"Mae hefyd yn creu peryglu i'w hymgyrch fod dan gysgod dros a yw Ross England - ymgeisydd ar gyfer etholiad cwbl wahanol - yn ffit i gael cymeradwyaeth y blaid."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2019