Cychwyn gwaith datblygu 拢6.5m yn Llangrannog a Glan-llyn

Ffynhonnell y llun, Purcell

Disgrifiad o'r llun, Darlun y penseiri o sut allai'r neuadd ymgynnull edrych ar 么l y trawsnewidiad yn Llangrannog

Bydd y gwaith gwerth 拢6.5m o ddatblygu gwersylloedd yr Urdd yn Llangrannog a Glan-llyn yn dechrau ddydd Gwener.

Mae'r prosiect yn cynnwys canolfan newydd ar gyfer aelodau h欧n yng Nglan-llyn Isa' a chanolfan chwaraeon d诺r newydd ar safle gwersyll Glan-llyn.

Bydd elfennau o safle Llangrannog yn cael eu moderneiddio hefyd, gan gynyddu nifer y llefydd aros.

Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu gymryd tua 18 mis i'w gwblhau.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Disgrifiad o'r llun, O'r chwith i'r dde: Huw Antur Edwards, Cyfarwyddwr Gwersyll Glan-llyn, cyn-bennaeth Glan-llyn, John Eric Williams a Si芒n Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd

Dywedodd Si芒n Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, fod y gwaith yn ddechrau ar brosiect "sylweddol a phwysig i'r Urdd".

"Rydyn ni hefyd wedi dod yn rhan bwysig o'r economi leol a'n huchelgais yw parhau i gael effaith gadarnhaol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol," meddai.