Buddsoddiad o 拢5.5m i wersylloedd Llangrannog a Glan-llyn
- Cyhoeddwyd
Bydd yr Urdd yn bwrw 'mlaen gyda chynllun datblygu 拢5.5m yng ngwersylloedd Llangrannog a Glan-llyn ar 么l i'r llywodraeth gytuno i ariannu hanner y gost.
Roedd y mudiad ieuenctid wedi cytuno i ariannu hanner y gost, a bellach mae'r llywodraeth yn fodlon cyfrannu 拢2.75m hefyd tuag at y cynllun.
Mae yna fwriad i wario 拢1.2m ar wella'r cyfleusterau yng Nghanolfan Hyfforddi Gweithgareddau D诺r Glan-llyn, ac 拢800,000 ar gyfer adeiladu Canolfan Addysgol newydd yng Nglan-llyn Isaf.
Bydd cost cynllun datblygu 'Calon y Gwersyll' yn Llangrannog yn costio 拢3.5m.
Roedd yr Urdd wedi dweud y byddai'r cynlluniau'n creu 18 o swyddi llawn amser a 12 o brentisiaethau.
Yn 么l yr Urdd, mae 56% o holl ysgolion Cymru yn treulio cyfnodau preswyl yng ngwersylloedd yr Urdd.
O'r rheiny roedd 26% o'r rhai fu'n ymweld dros y 3 mlynedd diwethaf yn dod o'r 20% cymuned fwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Mae mwy o ysgolion ail-iaith yn mynychu'r gwersylloedd nag ysgolion Cymraeg, sy'n "dangos gwerth y gwersylloedd fel pwynt mynediad i'r Gymraeg", meddai'r mudiad.
Mwy o arian i'r Urdd?
Gan gadarnhau buddsoddiad y llywodraeth, dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, bod yr Urdd yn "chwarae r么l hanfodol mewn darparu cyfleoedd dysgu gydol y flwyddyn i bobl ifanc yng Nghymru".
Dywedodd Si芒n Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, y byddai'r buddsoddiad yn caniat谩u'r Urdd i "wella cyfleusterau ac adnoddau, greu swyddi newydd yng nghefn gwlad Cymru a diweddaru isadeiledd ar gyfer cenedlaethau o blant a phobl ifanc Cymru i'r dyfodol".
Gyda 47,000 o breswylwyr yn ymweld yn flynyddol a throsiant o 拢5.2m, mae gwersylloedd Llangrannog a Glan-llyn yn cyflogi 160 o staff.
Dywedodd yr Urdd eu bod nhw'n rhagweld cynnydd yn y niferoedd o ymwelwyr yn dilyn y cynlluniau newydd - fydd yn gyfwerth ag 拢1.3m o drosiant ychwanegol i'r Urdd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2018
- Cyhoeddwyd30 Mai 2017