91Èȱ¬

Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer gêm Ffrainc yng Nghwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jonathan Davies (chwith) Hadleigh Parkes (canol) a Dan Biggar (dde) i gyd yn ffit i ddechrau'r gêm yn erbyn Ffrainc ddydd Sul

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi ei dîm i wynebu Ffrainc ddydd Sul gyda Jonathan Davies, Dan Biggar a Hadleigh Parkes ymysg y 15 fydd yn dechrau.

Roedd yna amheuaeth ynglŷn â ffitrwydd Davies ar ôl iddo anafu ei ben-glin yn y fuddugoliaeth yn erbyn Fiji tra bod Parkes wedi anafu ei ysgwydd yn y gêm yn erbyn Uruguay wythnos yn ôl.

Fe gafodd Biggar ergyd i'w ben yn erbyn Fiji ac yn erbyn Awstralia gyda'r maswr yn gorfod gadael y cae yn gynnar yn y ddwy gêm o ganlyniad.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn dweud nad oes unrhyw symptomau o gyfergyd wedi bod ers hynny a'u bod nhw wedi dilyn canllawiau penodol wrth iddo ddychwelyd i'r cae.

Mae'r asgellwr George North hefyd yn y tîm er ei fod wedi cael problem gyda'i bigwrn yr wythnos hon.

Yn y rheng ôl mae Aaron Wainwright yn dechrau gyda Justin Tipuric a Josh Navidi.

Mae hyn yn golygu taw'r un 15 gafodd y fuddugoliaeth yn erbyn Awstralia yng ngrŵp D fydd yn dechrau yn erbyn Ffrainc yn rownd yr 8 olaf.

Ar y fainc mae Gatland wedi penderfynu cynnwys Adam Beard yn lle Aaron Shingler gyda'r prop ifanc Rhys Carre wedi ei ddewis yn lle Nicky Smith.

°Õî³¾ Cymru: Williams; North, Jonathan Davies, Parkes, Adams; Biggar, G Davies; Wyn Jones, Owens, Francis, Ball, Alun Wyn Jones (capt), Wainwright, Navidi, Tipuric.

Eilyddion: E Dee, Carre, D Lewis, Beard, Moriarty, T Williams, Patchell, Watkin.

°Õî³¾ Ffrainc: Medard; Penaud, Vakatawa, Fickou, Huget; Ntamack, Dupont; Poirot, Guirado (capt), Slimani, Le Roux, Vahaamahina, Lauret, Ollivon, Alldritt.

Eilyddion: Chat, Baille, Setiano, Gabrillagues, Picamoles, Serin, Lopez, Rattez.