91热爆

Ymweld 芒'r pentref yn America ag 'olion Cymraeg ym mhobman'

  • Cyhoeddwyd

Mae Codi Hwyl yn 么l ar S4C, ac yn y gyfres yma, mae John Pierce Jones a Dilwyn Morgan yn cael cyfle i deithio o amgylch America.

Yn y bennod gyntaf, maen nhw'n ymweld 芒 Chapel Cymraeg Enlli yn nhalaith Efrog Newydd ac yn cael sgwrs ag ambell i aelod o'r gymuned sydd yn ddisgynyddion i Gymry a allfudodd yno yn y 1920au, ac sy'n arddel eu Cymreictod hyd heddiw.

Dyma stori teulu Lois Gwenllian o Lanfechell, a gafodd y cyfle i ymweld 芒'i theulu Americanaidd am y tro cyntaf eleni:

Dydd Gwener, 19 Mawrth 1926 oedd hi pan gamodd p芒r priod ifanc o Langristiolus, Ynys M么n ar fwrdd y llong RMS Antonia.

Roedd Richard a Jane Jones ar fin croesi'r Iwerydd ar drywydd y bywyd gwell hwnnw roedd tir mawr America yn ei addo. O'u blaenau roedd taith wyth diwrnod o Lerpwl i Halifax, Nova Scotia yng Nghanada. Cyrhaeddon nhw ben eu taith ar 27 Mawrth 1926.

Ffynhonnell y llun, Norway Heritage
Disgrifiad o鈥檙 llun,

RMS Antonia - y llong gludodd Richard a Jane i Ganada

Gwnaeth Jane a Richard eu cartref mewn pentref o'r enw Remsen sydd i'r gogledd o ddinas Utica yn yr Unol Daleithiau. Roedd presenoldeb Cymreig cryf yn Remsen ers i bum teulu o Gymru ymfudo yno yn 1795. Arwyddair y pentref hyd heddiw yw "Set in rural Welsh tradition" ac ar arwydd y pentref mae'n dweud "Croeso gyfeillion".

Ffynhonnell y llun, Lois Gwenllian
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Croeso gyfeillion: arwydd wrth gyrraedd pentref Remsen

Yno, mae olion y Cymry ym mhobman ac fel y byddai rhywun yn disgwyl mae'r mwyafrif ohonynt yn perthyn i'r traddodiad Methodistiaid Calfinaidd, yn bennaf capeli a mynwentydd.

Cysylltiad teuluol

Modryb fy nain oedd Jane. Cafodd Richard a Jane ddwy ferch, Dilys a Glenys. Ym mis Ebrill eleni, jest dros 93 o flynyddoedd ers i Richard a Jane groesi'r m么r, aeth fy rhieni a minnau draw i dalaith Efrog Newydd i ymweld 芒 Remsen ac i weld Dilys a'i phlant, a Glenys.

Ffynhonnell y llun, Dilys Cotton
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jane a Richard Jones (Anti J锚n ac Yncl Dic Twll Clawdd)

Mae'r teulu wedi cadw cysylltiad dros y degawdau ac wedi dod i Gymru ambell dro, ond dyma'r tro cyntaf i ni ymweld 芒 nhw.

Doeddwn i ddim wedi paratoi i'r aduniad fod yn un mor emosiynol. Y gwir amdani yw fod y berthynas deuluol yn un eitha' pell, yn enwedig rhyngdda' i 芒 merched Dilys. Ond, 'roedd 'na rywbeth mor gyfarwydd am fod yn eu cwmni, er mai dyna'r tro cyntaf i mi gyfarfod Debbie a Laurie, dwy ferch hynaf Dilys a'r tro cyntaf i mi gyfarfod Dilys fel oedolyn. Cawsom groeso heb ei ail yno.

Ffynhonnell y llun, Lois Gwenllian
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Lois a'i rhieni John a Cathrin gyda Dilys

Roedd hi'n amlwg fod eu gwreiddiau Cymreig yn andros o bwysig iddyn nhw. Dros y penwythnos dreulion ni yno, cawsom ein tywys ar daith o'r holl leoliadau Cymreig yr oeddent yn ymfalch茂o ynddyn nhw.

Y ddau mwyaf blaenllaw yw'r ddau gapel o'r pedwar gwreiddiol a godwyd yno: Capel Cerrig a Chapel Enlli.

Olion Cymreig

Y man cyntaf i ni ymweld ag o oedd Capel Cerrig.

Adeiladwyd y capel yn 1831 fel addoldy Methodistiaid Calfinaidd. Saif y capel ynghanol stryd o dai ac mae dal yn cael ei ddefnyddio heddiw. Mae cymuned fechan o 'gyfeillion y capel' yn gweithio'n galed i'w gynnal a'i gadw. Wrth reswm mae Dilys a'i merch ieuengaf, Pamela, yn rhan o'r gr诺p hwnnw.

Ffynhonnell y llun, Lois Gwenllian
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Capel Cerrig

O'i gymharu, roedd yr ail gapel ymwelon ni ag o yn gyferbyniad llwyr i Gapel Cerrig.

Saif Capel Enlli ar ddarn o dir sy'n teimlo'n ynysig a phell gyda mynwent fechan gyferbyn iddo. Yn adeilad bychan, pren, ar ochr l么n sawl milltir tu allan i bentref Remsen mae'n anodd dychmygu'r lle yn llawn ers talwm, heb s么n am fod yn llawn Cymry. Er hynny, cynhelir Cymanfa yno bob blwyddyn sy'n denu cynulleidfa dda.

Tu mewn, pe bawn wedi cau fy llygaid mi allwn fod yn y capel fynychais i fel plentyn ym Mynydd Mechell oherwydd yr un argol oedd yno: cymysgedd o hen lyfrau, tamprwydd a gwres yn erbyn pren gwlyb.

Ffynhonnell y llun, Lois Gwenllian
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Capel a Mynwent Enlli ar gyrion Remsen

Caiff Capel Enlli ei warchod gan Gymdeithas Hanes Remsen-Steuben hefyd.

Buom mewn sawl mynwent Gymreig yn crwydro'n igam-ogam rhwng y cerrig beddi a gweld enwau ardaloedd Cymru o dan enwau Cymraeg: Nefyn, Brynygroes, Ynys M么n, Caernarfon.

Hiraeth

Roedd hi'n anodd amgyffred y daith a'r hiraeth fyddai'r bobl hyn wedi'i deimlo. Cawsom gip ar yr hiraeth pan aethon ni i weld Glenys. Fe dorrodd i lawr yn ein clywed ni'n siarad Cymraeg. "That language," meddai, "the hiraeth gets me everytime."

Iddi hi, hiraeth am ei rhieni ydoedd, mae'n si诺r, gan mai gyda nhw y siaradodd hi Gymraeg ddiwethaf.

Ffynhonnell y llun, Lois Gwenllian
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gyda Glenys, yr ieuengaf o ddwy ferch Richard a Jane

Caiff 'hiraeth' ei gamddefnyddio'n aml a'i or-ramantu, dw i'n credu. Dyma'r tro cyntaf, o bosib, i mi ddeall (a gweld) beth yw gwir hiraeth.

Dywedodd Glenys wrthom ei bod wedi gweld yr hiraeth hwnnw'n naddu'n ddyfal ar ei mam ar hyd ei hoes. Aeth Jane fyth yn 么l i Gymru er iddi gael cyfle i fynd. "I think she was afraid that she wouldn't come back," oedd rhesymu Glenys dros benderfyniad ei mam.

Pan adawodd Anti J锚n Twll Clawdd Gymru, 'sgwn i a ddychmygodd hi y byddai ei wyresau hi yn croesawu ei gor-or-nith hi i'w cartrefi yn 2019?

Dw i'n credu y byddai hynny wedi bod yn haws iddi hi ei amgyffred, mewn ffordd, nag ydi hi i ni ddychmygu sut 'roedd hi yn teimlo ar y doc yn Lerpwl yn 1926 yn gwybod yn ei chalon na ddeuai hi yn 么l adref.

Hefyd o ddiddordeb