Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llywodaethau Cymru a'r DU yn 'siarad yn amlach' ar Brexit
Mae un o weinidogion Llywodraeth y DU wedi mynnu eu bod bellach yn siarad yn amlach 芒 Llywodraeth Cymru pan mae'n dod at drafodaethau Brexit.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Brexit Stephen Barclay bod "llawer mwy o dryloywder" bellach yn y sgyrsiau gyda'r sefydliadau datganoledig.
Ond fe gyfaddefodd nad oedd wedi siarad gyda'i weinidog cyfatebol yng Nghymru, Jeremy Miles, yr wythnos hon.
Daw hynny wrth i Brif Weinidog y DU, Boris Johnson barhau i geisio dod i gytundeb newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd cyn i'r aelodau gyfarfod ym Mrwsel ddydd Iau.
Mae'r trefniadau ar y ffin ar ynys Iwerddon yn parhau i fod yn un o'r prif bynciau trafod, gyda chynigion diweddaraf y prif weinidog yn awgrymu y gallai Gogledd Iwerddon gael ei thrin yn wahanol i weddill y DU ar 么l Brexit.
Yn gynharach datgelodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford nad oedd wedi trafod Brexit gyda Mr Johnson "yn y mis diwethaf".
Wrth gael ei holi gan ASau ddydd Mercher dywedodd Mr Barclay: "Un o'r pethau rydyn ni wedi bod yn ei wneud wrth i ni gyfathrebu'n amlach gyda llywodraethau Cymru a'r Alban yw newid y ffordd mae swyddogion yn cysylltu er mwyn gwneud pethau'n llawer mwy tryloyw o ran gwybodaeth."
Ychwanegodd: "Dydw i ddim wedi siarad gyda Jeremy [Miles] na Mike [Russell, y gweinidog 芒 chyfrifoldeb dros Brexit Yr Alban] yr wythnos yma.
"Fe wnaeth un o'r gweinidogion o fewn Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd fynd fyny i Gaeredin i gyfarfod 芒 Llywodraeth Yr Alban a Llywodraeth Cymru ddydd Iau diwethaf."