Cyhoeddi cartref newydd i ŵyl Tafwyl 2020
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr Tafwyl wedi cadarnhau bydd yr ŵyl yn symud o Gastell Caerdydd i Barc Biwt y flwyddyn nesaf.
Mae Menter Caerdydd hefyd wedi cadarnhau bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 19 - 21 o Fehefin 2020.
Fe gafodd Tafwyl ei sefydlu'n 2006 fel gŵyl flynyddol sydd am ddim i ddathlu'r iaith, celfyddydau a diwylliant Cymreig yng Nghaerdydd.
Mae cynulleidfa Tafwyl wedi tyfu dros y blynyddoedd o'r ychydig dros 1,000 o bobl yn y Mochyn Du yn 2006, i'r 37,000 fynychodd eleni.
'Uno cynulleidfa'
Dywedodd Manon Rees O'Brien, Prif Weithredwr Menter Caerdydd: "Mae cerddoriaeth, celfyddyd a diwylliant yn ffyrdd gwych i ddod â phobl at ei gilydd i gymdeithasu a mwynhau, boed yn siaradwyr Cymraeg rhugl, y rhai llai hyderus, dysgwyr a'r Di-Gymraeg.
"Mae'n uno cynulleidfa gan gynnig mynediad i bawb at y Gymraeg yn ein Prif Ddinas.
"Does unlle yn fwy amlwg na Tafwyl i ddangos hyn - sy'n ddathliad blynyddol balch iawn o'n hiaith," meddai.
Yn ô Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas mae Tafwyl wedi "tyfu'n un o'r penwythnosau mwyaf poblogaidd yng nghalendr digwyddiadau Caerdydd."
Ychwanegodd: "Yn debyg iawn i'r Gymraeg yng Nghaerdydd, mae Tafwyl wedi ffynnu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
"Edrychaf ymlaen gyda phleser mawr i groesawu a mynychu Tafwyl 2020 yn y lleoliad newydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2019