Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dylai'r DU 'fod yn agored' i Gymru annibynnol
Mae'n rhaid i'r DU "fod yn agored i unrhyw ran ohoni ddewis yn ddemocrataidd i ymadael 芒'r Deyrnas Unedig", yn 么l adroddiad gan Lywodraeth Cymru.
Dywed gweinidogion y dylai San Steffan adael i Gymru gynnal refferendwm petai gwleidyddion sy'n cefnogi annibyniaeth ennill etholiad Cynulliad.
Mae'r Llywodraeth Lafur, sy'n cefnogi aros o fewn yr undeb, yn gobeithio y byddai pleidleiswyr yn gwrthod annibyniaeth, ond yn dweud bod y DU - ar y gorau - yn cael ei gweld fel "cynghrair wirfoddol o genhedloedd".
Mae'r adroddiad yn dilyn cyfres o orymdeithiau annibyniaeth ar draws Cymru yn y misoedd diwethaf.
Undeb dan straen
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford yn galw am "setliad datganoli sefydlog ac estynedig" i fynd i'r afael 芒 heriau maen ei nodi i'r undeb.
Wrth draddodi darlith Kier Hardie ym Merthyr Tudful ddydd Iau, dywedodd: "Mae parhad y DU, heddiw, dan fwy o straen nag yn ystod fy oes wleidyddol i."
Roedd darlith Mr Drakeford yn cyd-fynd 芒 chyhoeddi'r ddogfen 'Diwygio Ein Hundeb', sy'n amlinellu'r newidiadau cyfansoddiadol angenrheidiol, ym marn Llywodraeth Cymru, i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r undeb.
Mae'r ddogfen yn datgan: "Os... yr ystyrir y DU fel cynghrair wirfoddol o genhedloedd, rhaid iddi fod yn agored i unrhyw ran ohoni ddewis yn ddemocrataidd i ymadael 芒'r DU.
"Pe na fyddai hyn yn digwydd, mae'n bosibl y gallai cenedl fod yn rhwymedig i'r DU yn erbyn ei hewyllys, sefyllfa a fyddai yn annemocrataidd ac yn anghyson 芒'r syniad o Undeb sy'n seiliedig ar werthoedd a buddiannau a rennir."
'Dylid canolbwyntio ar ddyfodol Cymru'
Yng nghyd-destun Cymru a'r Alban, mae'r ddogfen yn ychwanegu: "Ym marn Llywodraeth Cymru, ar yr amod bod llywodraeth yn y naill wlad neu'r llall wedi sicrhau mandad etholiadol pendant ar gyfer cynnal refferendwm, a bod ei senedd yn parhau i'w chefnogi i wneud hynny, mae hawl ganddi ddisgwyl i Senedd y DU gymryd y camau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod modd gwneud y trefniadau priodol."
Ond mae'n dweud "y byddai'n afresymol cynnal refferenda o'r fath yn rhy aml".
"Yn bwysicach na hynny, fel llywodraeth sydd wedi ymrwymo i'r DU, mewn unrhyw refferendwm o'r fath, byddem yn gobeithio mai pleidleisio o blaid gweld eu tiriogaeth yn parhau'n aelod o'r DU a wn芒i'r etholwyr perthnasol."
Dywedodd Mr Drakeford hefyd yn y ddarlith bod angen "cydnabyddiaeth glir, gyfreithiol" bod Cynulliad Cymru'n "rhan barhaol o bensaern茂aeth ddemocrataidd y DU", sydd ond yn bosib ei diddymu trwy refferendwm.
Yn 么l arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, does "dim amheuaeth y dylai Cymru allu cynnal refferendwm annibyniaeth".
"Mae'n siomedig - os nad yn syndod - bod Llywodraeth Lafur Cymru'n parhau i amddiffyn yr undeb ddigyfiawnhad yma... dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar godi Cymru' dyfodol, nid achub yr undeb."