91热爆

Miloedd yn gorymdeithio dros annibyniaeth yng Nghaernarfon

  • Cyhoeddwyd
rali Caernarfon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd miloedd o bobl yn cymryd rhan yn yr orymdaith

Mae miloedd o bobl wedi tyrru i Gaernarfon ddydd Sadwrn i gymryd rhan mewn gorymdaith yn galw am annibyniaeth i Gymru.

Fe ddechreuodd yr orymdaith am 13:00 o Faes Parcio Doc Fictoria, cyn mynd ymlaen drwy strydoedd y dref, o amgylch y castell, cyn gorffen gyda rali ar y Maes.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod tua 5,000 o bobl wedi cymryd rhan, ond yn 么l y trefnwyr mae'r ffigwr yn nes at 8,000.

Dywedodd un o'r trefnwyr, a chadeirydd mudiad YesCymru, Sion Jobbins: "Y nod ydy dangos bod 'na bobl yng Nghymru, miloedd ohonom ni, eisiau annibyniaeth i Gymru a bod Cymru yn gallu gwneud gwell job o reoli'i hun na chael ei rheoli gan San Steffan.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sion Jobbins: Pobl newydd yn ymuno 芒'r frwydr am annibyniaeth 'yn llythrennol bob mis'

"Mi allen ni fod mewn sefyllfa mewn dwy, tair blynedd lle mae'r Deyrnas Unedig yn dod i ben a bod Cymru ddim yn barod - bod Yr Alban wedi mynd a bod Gogledd Iwerddon wedi mynd - ac allwn ni ddim gadael hynny i ddigwydd.

"'Da ni'n bell o'r lan ond 'da ni'n agosach nag oedden ni flwyddyn yn 么l."

Ymhlith y siaradwyr ar y Maes roedd y digrifwr a'r gweithredwr gwleidyddol o'r Alban, Hardeep Singh Kohli.

"Mae'n annerbyniol beth sydd wedi digwydd i bobl Cymru," meddai wrth y rali.

"Mae'n amser i Gymru, fel yr Alban, adfer ei hun fel cenedl. O Gastell y Fflint i Gas-gwent yn y de, mae'n bryd i wlad y g芒n ganu ei ch芒n unwaith eto."

Ym mis Mai, roedd mudiad YesCymru, Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg ymhlith y mudiadau orymdeithiodd yng Nghaerdydd.

Ffynhonnell y llun, Llio Non
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd nifer o siaradwyr yn annerch y dorf mewn rali ar y Maes