Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Neil McEvoy yn dweud na fydd yn ail-ymuno 芒 Phlaid Cymru
Mae Neil McEvoy wedi dweud na fydd yn ceisio ailymuno 芒 Phlaid Cymru ar 么l i un o'i gefnogwyr fethu 芒 dod yn gadeirydd y blaid.
Methodd Dewi Evans, a oedd am i Mr McEvoy gael ei adfer, ddisodli Alun Ffred Jones yng nghynhadledd hydref y blaid dros y penwythnos.
Honnodd Mr McEvoy fod ACau Plaid wedi dal "y mudiad cenedlaethol yn 么l".
Dywedodd yr aelod cynulliad annibynnol hefyd y byddai'n sefyll yn erbyn Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn yr etholiad Cynulliad nesaf.
Cafodd Mr McEvoy ei wahardd o gr诺p Plaid Cymru yn y Cynulliad ym mis Ionawr 2018 gyda chydweithwyr yn teimlo wedi'u "tanseilio ac yn ddigalon".
Cafodd yr AC dros ranbarth Canol De Cymru ei ddiarddel am 12 mis y llynedd ar 么l ei gael yn euog o gamymddwyn yn dilyn ei ymddygiad honedig yng nghynhadledd wanwyn Plaid Cymru yn 2017.
'Monopoli o wleidyddiaeth genedlaetholgar'
Roedd yr AC, sydd hefyd yn gynghorydd yng Nghaerdydd, wedi ceisio ailymuno 芒'r blaid yn gynharach yn 2019 cyn gohirio'r broses ym mis Gorffennaf, gan honni diffyg "cyfiawnder naturiol".
Roedd panel disgyblu wedi bod yn ystyried ei gais ar y pryd. Ni wrthododd ymuno 芒'r blaid eto ac roedd o'r farn y gallai wneud hynny pe bai Mr Evans yn llwyddiannus.
Ddydd Llun fe ddywedodd Mr McEvoy ar Twitter na fydd "yn ceisio ailymuno 芒 Phlaid Cymru", ac mae'n bwriadu sefyll yn erbyn y prif weinidog Llafur Mark Drakeford yn etholiad nesaf y cynulliad yn 2021.
Honnodd: "Daeth monopoli Plaid Cymru o wleidyddiaeth genedlaetholgar i ben ddydd Sadwrn."
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Fel yr amlygwyd yn ein cynhadledd hynod lwyddiannus, dim ond ymgeiswyr Plaid Cymru all gyflawni newid trawsnewidiol ac edrychwn ymlaen at gyflwyno'r achos yn etholaeth y Prif Weinidog."
Trydarodd Mr McEvoy fod Alun Ffred Jones wedi cael 400 o bleidleisiau, a Mr Evans 135.
Ni fyddai ffynhonnell Plaid Cymru'n cadarnhau'r ffigyrau ond dywedodd bod y fuddugoliaeth yn un "sylweddol".