91热爆

ACau Plaid Cymru ddim eisiau aildderbyn Neil McEvoy

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoy
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Neil McEvoy ei wahardd o gr诺p Plaid Cymru yn y Cynulliad cyn cael ei ddiarddel o'r blaid

Mae 91热爆 Cymru'n deall bod Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn gwrthwynebu cais Neil McEvoy i ailymuno 芒'r blaid.

Mae Newyddion 9 wedi gweld dogfen sy'n amlinellu'r honiadau a arweiniodd at Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn ei ddiarddel o'r gr诺p yn y Senedd y llynedd.

Dywedodd Mr McEvoy nad oedd yn gallu ymateb i'r honiadau oherwydd cyfrinachedd gwrandawiad ei ap锚l.

Mae 91热爆 Cymru'n deall bod y panel oedd yn ystyried ei ap锚l wedi cael ei ddiddymu o achos yr hyn roedd y blaid yn disgrifio fel聽"dau achos o ryddhau gwybodaeth heb ganiat芒d".

Cafodd Mr McEvoy ei wahardd o gr诺p Plaid Cymru yn y Cynulliad ym mis Ionawr 2018 gyda chydweithwyr teimlo wedi'u "tanseilio ac yn ddigalon".

Fe gafodd yr Aelod Cynulliad dros ranbarth Canol De Cymru yna ei ddiarddel o'r blaid am 12 mis yn dilyn ymchwiliad i'w ymddygiad.

Honiadau'n erbyn Mr McEvoy

Gall 91热爆 Cymru ddatgelu honiadau yngl欧n 芒 faint mae'r berthynas rhwng Mr McEvoy ac Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi dirywio rhwng 2016 a 2018.

Mewn tystiolaeth sydd wedi'i chyflwyno at Bwyllgor Gwaith y blaid, yn egluro'r penderfyniad i'w ddiarddel o'r gr诺p, maen nhw'n honni bod Mr McEvoy wedi:

  • Bygwth ymddiswyddo yng nghyfarfod gr诺p cyntaf Plaid Cymru wedi etholiad 2016;

  • Gwneud cyhuddiad di-sail bod yr arweinydd ar y pryd, Leanne Wood, wedi dweud wrth y gr诺p bod pobl oedd ddim yn wyn ddim yn cael gwneud cyfweliadau adeg etholiad San Steffan;

  • Cyhuddo cydweithiwr o hiliaeth yn seiliedig ar honiad anwir;

  • Tanseilio aelod o staff mewn ebost gyda newyddiadurwr;

  • Mabwysiadu t么n ymosodol;

  • Wedi cyflwyno Cais Testun am Wybodaeth i Ms Wood, Rhun ap Iorwerth, Dai Lloyd a Bethan Sayed yn gofyn am "yr holl ddata personol amdanaf i";

  • Gwneud i staff deimlo'n anghyfforddus.

Maen nhw'n dweud nad yw'r rhestr hon yn "gyflawn" a bod achlysuron eraill pan glywodd y brif chwip bryderon gan staff am ymddygiad Mr McEvoy.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Neil McEvoy wedi cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru ers 2016

Wrth ymateb i'r honiadau, dywedodd Mr McEvoy: "Nid wyf yn gallu gwneud sylw gan fy mod yn parchu cyfrinachedd y broses [o'r ap锚l]."

Mae Heledd Gwyndaf, sy'n aelod o Blaid Cymru, yn amddiffyn hawl Mr McEvoy i ail-ymuno 芒'r blaid.

Dywedodd wrth 91热爆 Cymru: "Mae Neil McEvoy yn Aelod Cynulliad craff, gweithgar, egwyddorol ac effeithiol iawn; ac os ydy Plaid Cymru yn edrych i ennill yr Etholiadau Cynulliad nesaf yn 2021 a bod Adam Price yn mynd i fod yn Brif Weinidog Cymru, yna dwi'n meddwl bod rhaid iddyn nhw gael Neil McEvoy 'n么l fel Aelod Cynulliad Plaid Cymru.

"Ond y gwir stori fan hyn yw pam fod y stori hyn wedi cael ei rhyddhau i'r wasg... ac i ba bwrpas?"

'Rhyddhau gwybodaeth heb ganiat芒d'

Bu adroddiadau'r wythnos ddiwethaf fod ei ap锚l wedi cael ei drafod gan y blaid ond nad oedd penderfyniad.

Ddydd Gwener, dywedodd Plaid Cymru: "Estynnir gwahoddiad i'r Pwyllgor Gwaith i ddiddymu'r pwyllgor o ran delio gyda chais Mr McEvoy, ac apwyntio aelodau newydd a all ystyried y cais o'r newydd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Heledd Gwyndaf bod Neil McEvoy yn AC "craff, gweithgar, egwyddorol ac effeithiol iawn"

Dywedodd llefarydd hefyd ar ran y Cadeirydd Pwyllgor Aelodaeth, Disgyblaeth a Safonau: "Rydym yn difaru dau achos o ryddhau gwybodaeth heb ganiat芒d sydd wedi digwydd yn achos cais Mr Neil McEvoy AC i ail ymuno hefo'r blaid, sydd dan ystyriaeth y pwyllgor ar hyn o bryd."

Mae 91热爆 Cymru yn deall bod Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn erbyn ei gais, er dydy'r arweinydd Adam Price ddim wedi bod yn rhan o unrhyw drafodaeth rhwng ACau.

Dywedodd un AC wrth y rhaglen y byddai'n "anymarferol" i Mr McEvoy ail-ymuno 芒'r blaid ac nid y gr诺p yn y Cynulliad.