Galw am ddeddf gwarchod plant ar-lein wedi cynnydd troseddau
- Cyhoeddwyd
Mae elusen wedi galw am gyflwyno deddf er mwyn gwarchod plant a phobl ifanc ar-lein.
Mae ffigyrau newydd yn dangos bod cynnydd o 13% wedi bod yn nifer yr achosion o dargedu plant yn rhywiol ar gyfryngau cymdeithasol yng Nghymru.
Dywedodd yr NSPCC bod hynny'n achos pryder, a bod angen cyflwyno deddf yn y flwyddyn newydd er mwyn gwarchod plant.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd yn cyhoeddi mesur drafft newydd y flwyddyn nesaf i ddiogelu plant a phobl ifanc ymhellach ar-lein.
'Wyth pedoffeil'
Mae 91热爆 Cymru wedi siarad 芒 mam merch 11 oed o Gaerdydd gafodd ei thargedu ar-lein.
Mewn cyfweliad dienw, dywedodd mai dyma oedd "profiad gwaethaf fy mywyd".
Roedd y ddynes wedi edrych ar ff么n ei merch ym mis Mehefin eleni, gan sylweddoli ei bod wedi gyrru negeseuon at bobl ar ap Kik Messenger.
"Nes i weld bod wyth pedoffeil wedi cysylltu gyda hi," meddai.
"Mae'n ymddangos mai dim ond un o'r rheiny oedd wedi cael unrhyw, yr hyn maen nhw'n ei alw yn 'lwyddiant' gyda hi, lle llwyddon nhw gael sgwrs gyda hi fel bod hi'n ymddiried ynddyn nhw i'r graddau y gwnaeth e anfon delweddau anweddus ati yn y diwedd.
"Roedd e hefyd wedi anfon delweddau ohono fe ei hun ac wedi perswadio hi i anfon delweddau ohoni hi ei hun.
"Yn anffodus roedd e wedi dileu rhan fwyaf o'r sgwrs felly ni ddim yn ymwybodol o bopeth mae hi wedi bod yn dweud wrtho fe."
Yr heddlu'n ymchwilio
Fe gysylltodd y fam 芒'r heddlu'n syth, ac ar 么l cyfweld 芒'i merch yn eu cartref, fe aeth swyddogion 芒'i ff么n symudol a'i thabled oddi arni er mwyn cynnal ymchwiliad.
Yn 么l yr heddlu, fe gadarnhaodd yr ymchwiliad cychwynnol nad oedd ymgais i gyfarfod wyneb yn wyneb a doedd dim manylion ar gyfrifon y ferch fyddai'n ei hadnabod.
Dywedodd yr heddlu bod ymchwiliad manwl o'r dyfeisiau electronig yn parhau.
Yn siarad am effaith y digwyddiad ar eu bywydau, mae'r fam hefyd yn poeni nad yw gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Caerdydd wedi ymateb yn ddigon cyflym, a bod angen mwy o gyngor i rieni ar sut i warchod eu plant ar-lein.
"Licien i weld o leiaf ryw fath o bamffled yn cael ei ddosbarthu sy'n cael ei gadw mewn siopau ff么n symudol, meddygfeydd, ystafelloedd aros ysbytai, fel canllaw ar sut i roi cyfyngiadau ar ff么nau symudol i blant," meddai.
Mae llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd yn mynnu eu bod yn dilyn prosesau llym mewn achosion o'r fath, a bod y prosesau priodol wedi cael eu dilyn.
7,500 trosedd
Yn 么l yr NSPCC mae nifer yr achosion sydd wedi eu cofnodi yng Nghymru wedi cynyddu 13% rhwng Ebrill 2018 ac eleni o'i gymharu 芒'r un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Mae dros 7,500 trosedd o'r fath wedi eu cofnodi yng Nghymru a Lloegr mewn dwy flynedd.
Yn 么l cais rhyddid gwybodaeth gan 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr, mae un o bob pump o ddioddefwyr yn 11 oed neu'n iau.
Dros yr wythnosau diwethaf mae Kik Messenger, sydd 芒 miliynau o ddefnyddwyr, wedi cyhoeddi ei fod yn cau'r ap yn dilyn brwydr gyfreithiol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd30 Awst 2018