Dysgu Cymraeg ar draeth yn yr Eidal - diolch i Datblygu

Ffynhonnell y llun, Massimo Scocca

Disgrifiad o'r llun, Wyau a gwin - Gisella Albertini yn ei bar lleol yn yr Eidal

Pan wawdiodd Dave R Edwards y Cymry oedd yn "meistroli iaith lleiafrifol fel hobi" ychydig a wyddai y byddai'n ysbrydoli rhywun fil o filltiroedd i ffwrdd i wneud yr union beth hynny.

Ond mae Gisella Albertini yn dra gwahanol i'r Cymry dosbarth canol sy'n cael eu lambastio ganddo yn C芒n i Gymru. Does ganddi ddim bathodyn Tafod y Ddraig ar ei Volvo, mae hi'n cas谩u corau ac yn gwybod y nesaf peth i ddim am yr 糯yl Cerdd Dant - heb s么n am fwynhau trafod y darnau gosod.

Doedd hi erioed wedi clywed am y Gymraeg hyd yn oed tan iddi ddod ar draws caneuon Datblygu. Nawr mae'r Eidales yn gallu siarad Cymraeg ac wedi ymweld 芒 Chymru ddwywaith ers iddi ddechrau dysgu'r iaith ddeunaw mis yn 么l.

Mae hi'n un o nifer o ddysgwyr sy'n siarad ar raglen Recordiau Rhys Mwyn ar Radio Cymru nos Lun, Hydref 14, yn ystod Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, sy'n dweud eu bod wedi elwa o wrando ar gerddoriaeth Cymraeg.

Disgrifiad o'r llun, Dave R Edwards o'r band Datblygu

Un o Turin, yng ngogledd yr Eidal, ydi Gisella Albertini. Fe ddaeth ar draws y gr诺p o Aberteifi am y tro cyntaf yn yr 1980au pan glywodd nhw'n cael eu canmol gan gerddor o Brydain.

Doedd hi ddim yn si诺r sut i sillafu enw'r band - a chlywodd hi ddim byd am 'Datbloggy' am ddegawd arall. Yna, wrth deithio mewn car drwy Ffrainc fe glywodd g芒n gan y band Datblygu, rhoi dau a dau at ei gilydd a dechrau gwirioni ar y gerddoriaeth a'r iaith.

Hoffi s诺n y Gymraeg

"Ro'n i'n hoffi s诺n yr iaith - iaith doeddwn i ddim yn gwybod be' oedd o, a'r ffordd roedd o'n dweud y geiriau - efo punch," meddai wrth Cymru Fyw.

"Ro'n i'n meddwl mai Saesneg oedd yr iaith orau i roc a r么l - tan hynny.

"Roedd hwn fel s诺n hudolus, od - fel hen, hen iaith ond efo cerddoriaeth fodern."

Wrth deithio drwy Ffrainc ceisiodd efelychu'r synau ac ail-adrodd y geiriau - heb syniad am eu hystyr.

Yn ddiweddarach daeth o hyd i gyfieithiad ar y we, mwynhau eu hiwmor - a dysgu ychydig o Gymraeg drwy astudio'r caneuon.

Ffynhonnell y llun, Gisella Albertini/Datblygu

Disgrifiad o'r llun, Gwerslyfr Cymraeg wahanol i'r arfer oedd gan Gisella - un o ganeuon Datblygu

John Peel, ar ei raglen ar Radio 1, oedd un o brif gefnogwyr Datblygu a dywedodd unwaith am eu gwaith: "If you don't understand it, more the reason to learn Welsh".

A dyna'n union wnaeth Gisella.

Ymunodd 芒 chwrs ar-lein Say Something in Welsh cyn mynd ar ei gwyliau, a thra ar y traeth yn Ynys Elba bu'n gwrando ar wersi drwy ei chlustffonau ac ailadrodd geiriau a brawddegau.

Dysgu yn haws na'r disgwyl

"Dim ots gen i os oedd pobl yn meddwl mod i'n od!" meddai. "Roedd rhai pobl yn gofyn 'be' wyt ti'n wneud?'

"A phan oeddwn i'n dweud 'dwi'n dysgu Cymraeg' roedden nhw'n dweud 'pam?', neu 'ydi hwnna'n iaith?' neu 'mae'n rhaid bod o'n anodd'.

"Wel tydi o ddim yn anodd - roedd yn llawer gwell nag oeddwn i'n disgwyl, o feddwl doeddwn i erioed wedi clywed am yr iaith o'r blaen."

Ffynhonnell y llun, Gisella Albertini

Disgrifiad o'r llun, Y lleoliad delfyrdol am ddosbarth Cymraeg? Cavo, yn Rio Marina, Ynys Elba

Dyweda Gisella Albertini bod s诺n yr iaith - heblaw 'll' ac 'ch' - yn debyg i'r Eidaleg.

Dysgu am dri mis oedd ei tharged cyntaf - roedd hynny flwyddyn a hanner yn 么l - ac mae hi newydd gwblhau lefel tri gyda SSiW.

Ymweld 芒'r wlad a cheisio cynnal sgwrs yn Gymraeg oedd ei tharged nesaf, a'r gaeaf diwethaf aeth i orllewin Cymru.

Meddai: "Ro'n i'n mynd i lefydd ar ben fy hun a cherdded i mewn a meddwl 'ella dylwn i siarad Saesneg' ac yna meddwl 'na, rhaid i fi drio siarad Cymraeg, rhaid i fi ymarfer' felly fyddwn i'n gwthio fy hun i ddweud rhywbeth - ac fel arfer fydda' nhw'n siarad yn 么l yn Gymraeg. Mae pobl mor hapus a chyfeillgar pan ti'n siarad efo nhw yn Gymraeg."

Ffynhonnell y llun, Gisella Albertini

Disgrifiad o'r llun, Gisella Albertini - yn ei chrys Datblygu

Ond fe gafodd brofiad gwahanol iawn pan ddaeth yn 么l i Gymru fis Medi eleni pan ddaeth dyn i mewn i dafarn a chlywed criw yn sgwrsio yn y Gymraeg.

"Wnaeth o ofyn "why do you keep speaking Welsh when I'm here?" - a wnaethon nhw ddweud mod i'n dod o'r Eidal.

"Wnaeth o edrych arna' i a gofyn 'pam wyt ti'n dysgu iaith useless?' - achos roedd o wedi bod yn byw yno ers ambell flwyddyn ac erioed wedi trio, ac mae'n si诺r roedd yn flin pan roedd rhywun yn dweud 'well, I like it.'

"Dwi'm yn deall pam fod pobl yn flin pan mae pobl eraill yn siarad Cymraeg."

Ffynhonnell y llun, Gisella Albertini

Disgrifiad o'r llun, Gisella Albertini yn mwynhau peint a chwmni yn nhafarn y Dyffryn Arms, Cwm Gwaun

Y sialens nesaf...

A'r dyfodol? Dywed Gisella ei bod wedi dechrau gwneud ffrindiau yng Nghymru ac am barhau i ddysgu Cymraeg. Bydd hi'n parhau i wrando ar fandiau Cymraeg, yn cynnwys Llygod Ffyrnig, Cate le Bon, Bob Delyn a'r Ebillion a Poppies.

Mae hi hefyd am gymryd rhan mewn cystadleuaeth hwyl ar wefan SSiW i 'sgwennu am daith ddiweddar ac adolygiad o fand.

A phwy a 诺yr, os ydi hi'n parhau i ddysgu mor gyflym, fydd hi fawr o dro yn ennill "gradd da yn y Gymraeg".

Hefyd o ddiddordeb: