Disgownt ar baned yn annog siarad Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Sut mae annog pobl i roi cynnig ar siarad Cymraeg? Mae gan fenter gymunedol Antur Stiniog gynllun go unigryw.
Mae ymwelwyr sy'n ceisio archebu yn Gymraeg yn cael disgownt o 10% oddi ar eu paned o goffi.
Fe aeth Cymru Fyw i'r caffi i gyfarfod Tanwen a chlywed mwy am y syniad.
"O leia' mae o'n cychwyn sgwrs yn Gymraeg. Dydi fy Nghymraeg i ddim yn berffaith… trïo sy'n bwysig."
Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy.
Hefyd o ddiddordeb: