91热爆

Cau Senedd San Steffan yn 'atal trafodaethau' 芒 Chymru

  • Cyhoeddwyd
Michael Fordham QC
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Michael Fordham QC, yma yn y Goruchaf Lys yn 2018, sy'n cynrychioli Llywodraeth Cymru yn y trafodaethau yno eleni

Mae'r penderfyniad i gau Senedd San Steffan am bum wythnos yn atal Cynulliad Cenedlaethol Cymru rhag cynnal trafodaethau ar gyfnod allweddol, yn 么l cyfreithwyr Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi her gyfreithiol yn erbyn y penderfyniad i gau'r Senedd.

Mewn cyflwyniad ysgrifenedig i 11 o farnwyr y Goruchaf Lys, dywedodd Michael Fordham QC ar ran Llywodraeth Cymru: "Dyw'r deialog yma erioed wedi bod mor bwysig 芒 nawr wrth i'r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd."

Ychwanegodd: "Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi bod wrthi'n ddiwyd yn cyfathrebu gyda San Steffan, gan ddarparu cynigion cydsyniad deddfwriaethol i nifer o ddeddfau sydd wedi eu gweithredu gan y Senedd mewn materion datganoledig.

"Mae'r penderfyniad i gau'r Senedd am gyfnod hir o ganlyniad i weithredoedd y prif weinidog [y DU] yn atal unrhyw ddeialog pellach."

Fe ddadleuodd Mr Fordham bod mesurau sy'n effeithio Cymru ar fasnach ac amaeth bellach methu mynd yn eu blaenau gan fod y Senedd wedi ei atal ac nad oedd hi bellach yn bosib craffu ar hynny.

Y disgwyl ydy i'r barnwyr orffen clywed y cyflwyniadau yn ddiweddarach ddydd Iau.