Dogfen yn 'datgelu dinistr' Brexit heb gytundeb
- Cyhoeddwyd
Mae asesiad gweinidogion Llywodraeth y DU o effeithiau Brexit heb gytundeb yn "cadarnhau y byddai hynny'n niweidiol i Gymru," yn 么l Gweinidog Brexit Cymru, Jeremy Miles.
Fe ddaw ei sylwadau ar 么l i aelodau seneddol orfodi Llywodraeth y DU i ryddhau manylion dogfen Yellowhammer.
Dywedodd Mr Miles fod llywodraeth Boris Johnson wedi bod yn trafod llai gyda Llywodraeth Cymru na wnaeth llywodraeth flaenorol Theresa May yngl欧n 芒'r gwaith paratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb.
Ond yn 么l Ben Wallace, Ysgrifennydd Amddiffyn y DU, roedd y llywodraeth wedi gweithio'n galed i leihau'r risg posib.
Yn 么l dogfen Yellowhammer fe allai Brexit heb gytundeb arwain at:
prinder rhai bwydydd ffres a "chyflenwad llai" o gynhwysion allweddol;
prisiau bwyd a thanwydd yn codi, a fyddai'n cael mwy o effaith ar y rhai ar incwm isel;
ansefydlogrwydd a allai bara am chwe mis gydag effaith posib ar gyflenwadau meddygol;
protestiadau a gwrth brotestiadau.
Mae'r ddogfen hefyd yn dweud y gallai rhai busnesau roi'r gorau i fasnachu, twf yn y farchnad ddu a methiant o bosib mewn gofal cymdeithasol i oedolion.
Cyn cyfarfod o bwyllgor cynllunio ar gyfer Brexit heb gytundeb - cyfarfod sy'n cael ei gadeirio gan Michael Gove - dywedodd Mr Miles bod cyhoeddiad Yellowhammer yn cadarnhau y "byddai Brexit heb gytundeb yn cael effaith dychrynllyd a niweidiol ar economi a chymunedau Cymru".
Ychwanegodd ei bod hi "r诺an yn amlwg na all unrhyw lefel o baratoi osgoi'r lefel yma o aflonyddwch" a bod Yellowhammer yn "dangos pa mor ddi-hid oedd hi i atal y Senedd".
Wedi'r cyfarfod, dywedodd nad yw'n teimlo'n "hyderus" ynghylch y posibilrwydd o sicrhau cytundeb.
"Roeddwn yn gobeithio heddiw y byddwn yn clywed rhywbeth fyddai'n rhoi hyder i mi fod y trafodaethau yn symud yn eu blaenau yn dda, ond nes i ddim gadael gyda'r sicrwydd hwnnw."
Dywedodd hefyd bod Llywodraeth y DU wedi gwrando ei alwadau i gael mwy o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd.
'Lleihau'r risg'
Ond dywedodd Mr Wallace wrth 91热爆 fod y ddogfen yn dangos o beth a allai wedi digwydd "pe bai'r llywodraeth ddim yn gwneud dim" a bod nifer o fesurau bellach wedi eu cymryd i leihau'r risg.
Dywedodd Mr Gove, y gweinidog yn y cabinet sydd 芒 chyfrifoldeb ar gyfer cynllunio ar gyfer Brexit heb gytundeb, fod camau mawr wedi eu cymryd tuag at "sicrhau'r modd gadael mwyaf diogel" ar 么l Brexit heb gytundeb ers 2 Awst, sef y dyddiad pan gafodd y ddogfen wreiddiol ei chyhoeddi.
Ychwanegodd y byddai asesiad newydd yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Yn y cyfamser, dywedodd Ysgrifennydd Cymru bod dogfen Yellowhammer yn "ddynamig oedd yn symud".
Gofynnwyd i Alun Cairns os oedd purfa olew Valero yn Sir Benfro yn "ddiogel" os na fyddai cytundeb Breixt.
Fe atebodd drwy ddweud "ydy", a phan ofynnwyd ymhellach os y byddai'n cau, dywedodd "na".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2019
- Cyhoeddwyd21 Awst 2019
- Cyhoeddwyd18 Awst 2019
- Cyhoeddwyd5 Medi 2019
- Cyhoeddwyd10 Medi 2019