Nid 'glam' mo'r byd sylwebu bob tro
- Cyhoeddwyd
Ail golofn Cwpan y Byd Gareth Charles wrth iddo baratoi i deithio i Japan:
Ar 么l treulio chwarter canrif yn teithio'r byd yn gohebu ar rygbi rwy'n teimlo weithiau bod fy nghydweithwyr annwyl wrthi'n ddyfal yn ceisio dod o hyd i ffyrdd newydd, difyr a gwahanol i wneud bywyd yn anodd i fi ben draw'r byd!
I'r rhai ohonoch chi sy'n meddwl mai'r oll 'y ni'n gwneud yw troi lan mewn blwch sylwebu moethus a phopeth wedi trefnu ga'i ddarbwyllo chi nad fel 'na mae hi.
Fel bod yn Nhregaron
Ar daith Cymru i Awstralia yn 1996 roedd un g锚m yn erbyn New South Wales Country XV mewn tre amaethyddol fechan o'r enw Moree. Roedd hi fel bod yn Nhregaron!
Roedd y swyddfa wedi archebu ff么n i fi a gofyn am ei osod rhywle gyda bach o uchder i gael golwg go dda o'r cae. Fe ddes i o hyd i'r ff么n mewn bag plastig wedi'u glymu i bolyn ar do'r clwb - yr unig adeilad yn y maes ac roedd yn rhaid i fi gerdded ar draws to'r adeilad i'w gyrraedd!
Ddiwrnod y g锚m - ar 么l tair blynedd heb law - fe ddaeth y dilyw. Roedd yr heolydd fel afonydd a bobman yn sopen. Hyd y gwn i mae'r ff么n yn dal yn y bag ar y to - es i ddim ar ei gyfyl e!
Sylwebu mewn storm
Flwyddyn yn ddiweddarach yn Wilmington, Carolina fe ges i'r pleser o sylwebu ar g锚m Cymru'n erbyn yr Unol Daleithiau o cherry picker un o'r peiriannau rheini sy'n cael eu defnyddio i lanhau ffenestri swyddfeydd neu drwsio polion lamp ac yn y blaen.
Roedd pump o' ni ar y peiriant - pedwar yn sylwebu ac un yn ffilmio i Undeb Rygbi Cymru. Ni oedd yn gorfod gweithio'r peiriant hefyd a pan ddaeth storm fellt a tharanau ddiwedd y g锚m doedden ni ddim sbel yn dod 'n么l lawr i'r ddaear!
'Problemau technegol'
Hyd yn oed pan mae'r stadiwm yn fodern a'r trefniadau'n ymddangos yn eu lle 'dyw e ddim wastad mor syml 芒 hynny.
Mae'n arferiad mynd i'r maes ddiwrnod cyn y g锚m, yn gyntaf am y cyfle ola' i holi'r capteiniaid, ac yn ail i brofi'r offer darlledu.
Yn Brisbane ryw saith mlynedd n么l doedd yr offer ddim wedi'i osod fore Gwener ond fe geson ni sicrwydd y byddai'r gwaith wedi'i gwblhau erbyn diwedd y dydd.
Gyda'r g锚m nos Sadwrn, n么l a ni amser cinio ddydd Sadwrn, gan feddwl byddai popeth wedi'i sortio o fewn yr awr ond er bod yr offer yno doedd dim modd cysylltu 芒 Chaerdydd.
A hithau'n benwythnos g诺yl banc fe gynigiodd cwmni telecom ddatrys y broblem fore Mawrth - dros ddeuddydd wedi'r g锚m!
Ar 么l treulio oriau di-ben-draw yn trafod gyda swyddogion cyfathrebu, swyddogion Undeb Rygbi Awstralia a pheirianwyr yng Nghaerdydd daeth hi'n amlwg bod archeb ein swyddfa ni ddim yn cynnwys cyswllt rhyngwladol - doedd dim modd darlledu tu hwnt i Awstralia!
Diolch i help peiriannydd cwmni darlledu ABC fe lwyddon ni i gael un pwynt sylwebu'n gweithio ar gyfer cyfraniadau rhaglenni boreol Radio Cymru a Radio Wales ac ail ar gyfer y sylwebaethau eu hunain. Fe gymerodd hyn yn llythrennol drwy'r dydd a finnau wedi cyrraedd mewn p芒r o j卯ns a chrys-t.
Roedd rhaid i fi roi allwedd fy stafell i gydweithiwr a gofyn iddo fe ddod a chrys, siaced ac, yn bwysicach, fy holl nodiadau a'n sbectol ar gyfer y g锚m. Fe gyrhaeddes i'r maes am hanner dydd a gadael am hanner nos - byd glam darlledu!
Gweld y wlad
Erbyn hyn mae pethau'n wahanol iawn gan ddibynnu mwyfwy ar gyswllt wifi - sydd yn dod a'i broblemau unigryw ei hun yn enwedig pan mae dwsinau o ohebwyr yn ceisio gwneud yr un peth yr un pryd, ond rwy'n si诺r bydd popeth yng Nghwpan y Byd yn mynd fel wats (ie reit!).
Fe ges i flas bychan iawn o Siapan ryw saith mlynedd n么l pan dreulies i bum diwrnod yn ffilmio gyda Shane Williams pan oedd e'n chwarae i'r Mitsubishi Dynaboars - ryw awr o Tokyo.
Roedd e'n brofiad gwahanol iawn - dim gair o Saesneg a'r arwyddion i gyd yn yr orgraff Siapaneg; ond pobl hynod gwrtais a chroesawgar ond yn glynu wrth drefn ymhob dim.
Rwy'n edrych 'mlaen yn fawr iawn nid yn unig am fod cyfle gwirioneddol gan Gymru i wneud yn dda ond hefyd i gael gweld 'chydig o'r wlad a mwynhau'r diwylliant - ac rwy' wrth fy modd gyda sushi!