Rotorua, Wellington a Twickenham: Gemau cofiadwy Cymru

  • Awdur, Gareth Charles
  • Swydd, Gohebydd Cwpan Rygbi'r Byd, 91热爆 Cymru

Gyda Chwpan Rygbi'r Byd 2019 yn dechrau yn Japan ar 20 Medi, mae Gareth Charles yn dechrau cyfres o golofnau drwy restru ei atgofion melysaf o Gymru yn y bencampwriaeth dros yr holl flynyddoedd mae wedi bod yn sylwebu arni:

Cwpan y Byd 1987 (Seland Newydd ac Awstralia)

Pan gyhoeddwyd bod Cwpan Rygbi'r Byd i gael ei gynnal yn 1987 doedd neb yn gwybod beth i'w ddisgwyl ond erbyn i gapten Seland Newydd, David Kirk, godi Tlws Webb Ellis roedd y byd rygbi ar fin newid a bellach mae popeth yn troi mewn cylchoedd o bedair blynedd.

Ffynhonnell y llun, Russell Cheyne

Disgrifiad o'r llun, Mewnwr Cymru, Robert Jones, yn clirio'r pwysau gyda chic yn erbyn Awstralia yn y fuddugoliaeth yn Rotorua, 13 Mehefin, 1987

Os oedd neb yn gwybod beth i'w ddisgwyl doedd neb chwaith yn disgwyl i Gymru orffen yn drydydd - ond dyna wnaethon nhw dan gapteiniaeth Richard Moriarty a dan arweiniad Jonathan Davies a set o olwyr talentog a oedd yn cynnwys Robert Jones, John Devereux, Mark Ring, Adrian Hadley ac Ieuan Evans.

Roedd g锚m y trydydd safle yn erbyn Awstralia yn Rotorua yn dynn, cystadleuol a dadleuol - Awstralia lawr i 14 o fewn pum munud a'r fantais yn newid dwylo'n gyson. Ar ei h么l hi 芒 munudau i fynd fe sgoriodd Adrian Hadley gais gwych yn y gornel, a gyda throsiad Paul Thorburn reit o'r ystlys, Cymru oedd yn dathlu buddugoliaeth 22-21. Trydydd yn y byd - safle gorau Cymru yn y gystadleuaeth hyd heddiw.

Cwpan y Byd 1999 (Cymru, Lloegr, Ffrainc, Iwerddon, Yr Alban)

Ffynhonnell y llun, FRANCOIS MARIT

Disgrifiad o'r llun, Y seremoni agoriadol i Gwpan y Byd 1999, 1 Hydref

Yn 1999 roedd Cymru wedi llwyddo i wahodd y byd rygbi i'w cartre' nhw (ynghyd 芒 gweddill Prydain a Ffrainc!). Roedd ganddyn nhw stadiwm newydd sbon ar gyfer yr achlysur ac roedd gan y seremoni agor naws ddiedifar Gymreig - o'r corau meibion a Bryn Terfel i Catatonia, Max Boyce a Shirley Bassey yn ei gwisg Draig Goch.

Ac roedd gan Gymru d卯m teilwng o'r achlysur hefyd. Dan adain Graham Henry roedden nhw ar rediad o naw g锚m heb golli pan agorwyd y gystadleuaeth gyda'r g锚m yn erbyn yr Ariannin. Colin Charvis gafodd y fraint o sgorio cais cynta'r gystadleuaeth a Chymru'n sicrhau buddugoliaeth glos 23-18.

Daeth y rhediad i ben bythefnos wedyn yn erbyn Samoa - mewn g锚m lle rhoddodd Neil Jenkins ei enw yn y llyfrau hanes fel y chwaraewr rygbi cyntaf i gyrraedd mil o bwyntiau rhyngwladol. Ac fe ddaeth rhediad Cymru yn y Cwpan i ben yn rownd yr wyth olaf yn erbyn Awstralia, ond roedd Cymru n么l ar fap rygbi'r byd.

Cwpan y Byd 2003 (Awstralia)

Ffynhonnell y llun, Manuel Blondeau

Disgrifiad o'r llun, Blaenasgellwr Cymru, Colin Charvis, yn rhwygo amddiffyn y Crysau Duon, 2 Tachwedd 2003

Stadiwm Telstra, Sydney, oedd y lleoliad ar gyfer un o'r gemau mwyaf anhygoel yn hanes rygbi Cymru. Ar 么l ennill tair mas o dair roedd Cymru'n saff yn rownd yr wyth olaf ond ar gyfer g锚m ola'r gr诺p yn erbyn Seland Newydd fe synnodd Steve Hansen bawb gan wneud deg newid a rhoi gemau cyntaf i Garan Evans yn gefnwr a Shane Williams oedd wedi bod yn s芒l yn ei wely drwy'r wythnos.

糯yn i'r lladdfa oedd rhagdybiaeth pawb, yn enwedig ar 么l i Joe Rokocoko sgorio o fewn dwy funud, ond fe dr枚wyd y disgwyliadau ar eu pen gyda Shane yn disgleirio a Chymru'n chwarae rygbi cwbl wefreiddiol. Am y tro cyntaf erioed fe sgoriodd Cymru bedwar cais yn erbyn y Crysau Duon a phan groesodd Shane am y pedwerydd, ychydig wedi'r egwyl, roedd Cymru ar y blaen a phawb yn gegrwth!

Fe ddaeth y Crysau Duon n么l i ennill 53-37. 90 o bwyntiau, 12 cais ac er bod Cymru wedi colli'r g锚m roedden nhw wedi ennill calonnau cefnogwyr o bob gwlad.

Cwpan y Byd 2011 (Seland Newydd)

Ffynhonnell y llun, AFP Contributor

Disgrifiad o'r llun, Mewnwr Cymru, Mike Phillips, yn mynd heibio ei gyd-chwaraewr o'r Gweilch ar y pryd, Tommy Bowe, i sgorio yn y gornel, 8 Hydref, 2011

Ar 么l y siom o fethu dod mas o'r gr诺p yn Ffrainc yn 2007 roedd y disgwyliadau'n fawr yn 2011 a Warren Gatland yn dychwelyd i'w famwlad. Er colli o bwynt i Dde Affrica fe lwyddodd Cymru i gyrraedd rownd yr wyth ola'n gyffyrddus - ac yn eu haros nhw, Iwerddon.

Os oes un chwaraewr wedi llwyddo i fynd dan groen y Gwyddelod, Mike Phillips yw hwnnw. Roedd ei gais, gan ddefnyddio'r b锚l anghywir yng Nghaerdydd ychydig fisoedd ynghynt, yn dal yn fyw yn y cof ond doedd dim dadleuol am y cais hollbwysig sgoriodd e yn Wellington - perl o gais unigol o amgylch ochr dywyll sgarmes a hedfan drwy'r bwlch lleiaf i dirio yn y gornel.

Erbyn i Jon Davies ychwanegu cais hwyr doedd hynny ond eisin ar y gacen - buddugoliaeth gyffyrddus 22-10 a Chymru yn y rownd gynderfynol am y tro cyntaf ers y gystadleuaeth gyntaf un. Trueni bod Gwyddel arall - Alain Rolland yn eu haros nhw!

Cwpan y Byd 2015 (Lloegr a Chymru)

Ffynhonnell y llun, David Rogers

Disgrifiad o'r llun, Jamie Roberts, Alun Wyn Jones ac eraill mewn gorfoledd wrth ddathlu'r fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr yn Twickenham, 26 Medi, 2015

Gyda Chymru, Lloegr ac Awstralia yn yr un gr诺p roedd un o'r gwledydd mawr ddim yn mynd i gyrraedd y chwarteri a doedd y wlad oedd yn cynnal y gystadleuaeth erioed wedi methu dianc o'r gr诺p.

Felly roedd hyd yn oed mwy o arwyddoc芒d i ymweliad Cymru 芒 Twickenham ddiwedd Medi 2015. Roedd yr awyrgylch yn danbaid - yn fwy heriol nag arfer ac yn help i godi'r Saeson ar gyfer yr achlysur. Nhw gafodd y gorau ohoni - 19-9 ar yr egwyl yn mynd yn 22-12 芒 hanner awr i fynd. Roedd natur gorfforol y g锚m yn dangos gyda Chymru'n colli Scott a Liam Williams a Hallam Amos gydag anafiadau.

Ond yn eironig fe drodd yn achubiaeth i Gymru gyda'r mewnwr Lloyd Williams yn gorfod chwarae ar yr asgell chwith. Yn hwyr iawn yn y g锚m fe saern茂odd gic ryfeddol i alluogi'r mewnwr arall Gareth Davies i dirio dan y pyst i ddod 芒 Chymru'n gyfartal. Roedd angen cic gosb arall gan y dibynadwy Dan Biggar (sgoriodd record o 23 pwynt) i ennill y g锚m. Yn 么l rhai buddugoliaeth fwyaf Cymru ar dir estron a sylwebwyr diduedd 91热爆 Cymru yn cael eu dal ar fideo yn dawnsio mewn gorfoledd!

Hefyd o ddiddordeb: