Dodds: 'Angen i Corbyn brofi fod ganddo gefnogaeth ASau'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i arweinydd y blaid Lafur brofi fod ganddo ddigon o gefnogaeth ymysg ASau cyn bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi ei gynllun i fod yn Brif Weinidog dros dro.
Dyna farn yr AS newydd ar gyfer Brycheiniog a Sir Faesyfed, Jane Dodds, sy'n dweud bod angen iddo sicrhau cefnogaeth ASau Ceidwadol yn gyntaf.
Mae Jeremy Corbyn wedi ysgrifennu at arweinwyr rhai o bleidiau eraill San Steffan gyda chynllun i atal Brexit heb gytundeb.
Ond dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru nad oedd hi'n ffyddiog y bydd cynllun Mr Corbyn yn llwyddo.
Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement fore Sul, dywedodd Ms Dodds fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud wrth Mr Corbyn eu bod nhw'n barod i'w gefnogi os oes modd iddo lunio cynllun clir.
"Mae'n rhaid iddo ddeud 'mae gen i gefnogaeth yr wyth aelod Ceidwadol sydd ei angen, dyma yw eu henwau ac maen nhw'n barod i gefnogi fi fel Prif Weinidog' ac yna eu rhannu.
"Os oes ganddo'r niferoedd angenrheidiol, yna mae'n rhaid iddo ddangos hynny i ni."
'Un cyfle'
Ychwanegodd Ms Dodds: "Un cyfle sydd gennym ni i ffurfio llywodraeth o undeb cenedlaethol, rydyn ni'n rhedeg allan o amser, ac mae'n rhaid iddo gael ei wneud yn iawn."
"Mae angen rhywun sydd 芒 digon o awdurdod i arwain pobl a sicrhau nad ydyn ni'n gadael Ewrop ar 31 Hydref heb gytundeb.
"Pwy bynnag fydd yn gallu sefydlu'r gefnogaeth a'r awdurdod angenrheidiol yma, yna bydde ni'n si诺r o'u cefnogi nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2019
- Cyhoeddwyd2 Awst 2019