Brexit: 'Bydd llais Cymru yn cael ei glywed'
- Cyhoeddwyd
Bydd llais Cymru yn "cael ei glywed" wrth i'r Deyrnas Unedig lunio polisi masnach ryngwladol 么l-Brexit.
Dyna ddywedodd y Gweinidog Masnach Rhyngwladol, Conor Burns AS, ar ymweliad 芒 de Cymru ddydd Mercher.
Dywedodd ei fod yn "hyderus iawn" y bydd y DU a'r Undeb Ewropeaidd yn taro bargen fasnach un ai cyn neu ar 么l 31 Hydref.
Erbyn hynny, gobaith Prif Weinidog y DU, Boris Johnson yw y bydd y DU wedi gadael yr UE - a hynny gyda neu heb gytundeb.
'Pryderus iawn'
Bu Mr Burns yn ymweld 芒 chwmni Concrete Canvas ym Mhontyclun - cwmni sy'n dweud fod y diffyg manylion o amgylch Brexit yn "bryderus iawn, iawn".
Er mai dim ond tua 6% o nwyddau'r cwmni sy'n cael eu hallforio i wledydd yr UE, mae'n allforio nwyddau i 85 gwlad ledled y byd.
Fel aelod o'r UE, mae'r DU yn rhan o tua 40 o gytundebau masnach sydd gan yr UE gyda dros 70 o wledydd.
Mae'r DU eisiau ailadrodd y cytundebau masnach yma - ond hyd yn hyn 12 o'r 40 gwlad a rhanbarth yn unig sydd wedi cytuno.
Dywedodd Peter Brewin, cyd-sylfaenydd y cwmni: "Mae'n annhebygol y bydd y 28 arall wedi'u gwneud o fewn y ddeufis nesaf.
"Dyw e ddim yn rhoi hyder i chi pan mae gennych chi lywodraeth sy'n siarad am yr angen i 'bawb fod yn optimistaidd' heb roi gwybodaeth ar be' allwn ni fod yn optimistaidd oherwydd o ble rwy'n edrych, y ffeithiau a'r ffigyrau rwy'n edrych arnyn nhw, mae'n bryderus iawn, iawn."
Dywedodd Mr Burns: "Rydym yn paratoi'n ymosodol ar gyfer y posibilrwydd y byddwn yn gadael yr UE ar 31 Hydref heb gytundeb.
"Ond mae'n werth nodi wrth gwrs bod y prif weinidog wedi dweud nad dyna'r canlyniad a ddymunir.
"Bydd [Brexit heb gytundeb] yn golygu newid i'r berthynas fasnachu dros dro ond rwy'n hyderus iawn oherwydd ei bod er budd y DU a'r UE i wneud bargen maes o law."
"Rwy'n credu mai'r unig gwestiwn yw a ydyn ni'n cael y fargen honno cyn 31 Hydref neu a ydyn ni'n cael cytundeb masnach rydd gynhwysfawr ar 么l 31 Hydref," ychwanegodd.