Comisiynydd: Rhieni angen 'eglurder' ar addysg Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi awgrymu bod rhieni'n cael eu camarwain ynghylch faint o addysg Gymraeg mae eu plant yn ei dderbyn mewn rhai ysgolion.
Dywedodd Aled Roberts fod y ddarpariaeth yn gallu bod yn gymysglyd ac anghyson mewn rhai ysgolion dwyieithog, gyda llai yn astudio pynciau drwy'r Gymraeg nac y dylen nhw fod.
Wrth siarad ar faes yr Eisteddfod, galwodd am "gategoreiddio ieithyddol cadarn" a dweud bod angen gweithredu'r rheolau yn fwy llym.
Ychwanegodd ei fod yn dod ar draws teuluoedd Cymraeg iaith gyntaf sy'n dal i feddwl bod astudio pynciau fel gwyddoniaeth drwy'r Gymraeg yn rhy "anodd".
Gwell yn y dwyrain?
Mewn sgwrs gyda'r barnwr a'r sylwebydd Nic Parry yn Llanrwst ddydd Mercher, dywedodd Mr Roberts bod angen "newid natur y ddarpariaeth o ran addysg".
Cyfeiriodd at un esiampl o ysgol oedd yn disgyn dan gategori dwyieithog 2A - oedd yn golygu bod 80% o ddisgyblion i fod i dderbyn addysg Gymraeg.
Ond pan edrychodd ar ystadegau'r ysgol honno gwelodd mai dim ond 37% o'r disgyblion oedd wedi sefyll arholiadau drwy'r Gymraeg mewn o leiaf pump o'u pynciau.
"Pan nes i ofyn iddyn nhw beth sy'n mynd ymlaen yma, roedden nhw'n dweud mai'r broblem ydy bod 'na ysgol arall yn weddol agos, ac os 'dyn ni'n gwthio'r Gymraeg yn ormodol 'dan ni'n colli plant, a 'dan ni dal mewn problemau ariannol," meddai.
Yn gynharach eleni dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai disgwyliadau gwahanol ar ddisgyblion gwahanol yn dibynnu ar broffil iaith ysgolion.
Ychwanegon nhw y byddai mwy o bwyslais ar wella sgiliau ac ar ddefnyddio'r iaith.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg bod y ddarpariaeth o ran addysg Gymraeg weithiau'n well yn nwyrain a de Cymru, ble mae mwy o ysgolion Cymraeg penodedig nac yn y gorllewin, ble mae'r ysgolion mewn ardaloedd mwy Cymraeg ond yn dod dan y categori dwyieithog yn swyddogol.
"Dwi'n mynd i rai mannau yng Nghymru lle mae'r plant yn dod o gartrefi ble dydyn nhw ddim yn siarad Saesneg," meddai.
"Ond eto mae rhyw fath o feddylfryd ble mae eu rhieni nhw'n dweud 'dydy o ddim yn bosib i ti astudio Ffiseg drwy'r Gymraeg, mae'n rhy anodd'."
Ychwanegodd y gallai cyrff arolygu fel Estyn chwarae mwy o ran wrth orfodi ysgolion i ddilyn y rheolau, gan ddweud bod "neb yn cadw trefn".
"Y rheswm dros gategoreiddio ieithyddol cadarn ydy bod rhieni yn gwybod yn union beth ddylai eu disgwyliadau nhw fod o ran y Gymraeg pan mae'r plant yna'n cyrraedd 16 oed," meddai.
Santander yn synnu
Fe wnaeth Mr Roberts hefyd ddweud wrth y gynulleidfa y dylai Cymry Cymraeg gymryd mwy o "gyfrifoldeb" dros ddewis yr opsiwn 'Cymraeg' wrth ddefnyddio gwasanaethau.
O beidio gwneud hynny, meddai, fe fydd hi'n anoddach darbwyllo cwmn茂au a chyrff cyhoeddus i gynnig yr iaith fel opsiwn, os nad oedd y ffigyrau'n dangos bod llawer yn gwneud defnydd ohoni.
"Dwi'n synnu wrth i mi fynd o gwmpas faint o bobl sy'n gwbl rugl yn y Gymraeg, a phan dwi'n gofyn iddyn nhw beth 'dach chi'n 'neud o ran defnyddio'r iaith efo'r cyngor sir, BT, HMRC neu beth bynnag, mae 'na ganran go fawr o bobl sydd ddim yn defnyddio'r Gymraeg o gwbl," meddai.
"Felly mae 'na gyfrifoldeb personol arnom ni."
Cyfeiriodd at un esiampl ble roedd wedi llwyddo dwyn persw芒d ar fanc Santander i gynnig opsiwn Cymraeg ar eu peiriannau twll-yn-y-wal - ond gan fod y cwmni'n defnyddio'r system ar hyd Prydain gyfan, roedd yr iaith ar bob un o'u peiriannau yn y DU.
Yn eu hadroddiad cyntaf ar 么l tri mis, meddai Mr Roberts, fe gawson nhw "bach o sioc".
Roedd tua 5,000 o gwsmeriaid yng ngogledd Cymru wedi mynd am y Gymraeg, a thua 5,000 yn y de hefyd - ond roedd 40,000 wedi dewis yr opsiwn hwnnw ar draws Lloegr a'r Alban.
"Un ai bod 'na lawer mwy o siaradwyr Cymraeg yn Lloegr a'r Alban nac o'n i 'di feddwl, neu mae 'na uffar o lot o bobl sydd ddim yn gwybod faint o arian maen nhw 'di gael!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd27 Medi 2018