Ailadeiladu gorsaf drenau brysuraf Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd yr orsaf drenau brysuraf yng Nghymru yn cael ei hailadeiladu a bydd gorsaf newydd sbon yn cysylltu gorllewin Cymru gyda'r de.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Chris Grayling y bydd 拢58m yn cael ei wario ar adnewyddu gorsaf Caerdydd Canolog a bydd gorsaf newydd yn cael ei chodi yn Felindre, Abertawe.
Bydd y gwaith yn golygu bydd y daith o'r gorllewin i Gaerdydd yn gostwng chwarter awr erbyn mis Rhagfyr.
Dywedodd Mr Grayling fod pobl yng Nghaerdydd yn haeddu "gorsaf fodern, hawdd ei chyrraedd."
Dywed yr Adran Drafnidiaeth y bydd yr uwchraddio yn hwyluso tagfeydd traffig yn ystod amseroedd brig.
Bydd y cyllid, medd Mr Grayling, yn "sicrhau teithiau mwy dibynadwy, cysurus a chyflymach i fewn ac allan o'r brifddinas".
Mae yna amcangyfrif y bydd y nifer o deithwyr blynyddol yn codi o 12.7m yn 2016 i 32m yn 2043.
Mae angen 拢180m i drawsnewid ardal canol Caerdydd yn gyfangwbl, gan gynnwys yr orsaf drenau a'r orsaf fysiau newydd.
Yn ogystal 芒 chael 拢40m o arian bargen ddinesig Caeardydd mae'r prosiect yn ddibynnol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru a'r DU.
'Gostwng nifer y ceir ar yr M4'
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns: "Dyw'r ffordd mae'r orsaf yn gweithredu ar hyn o bryd ddim yn addas i'w phwrpas yn nhermau prifddinas fodern.
"Ry'n hefyd yn ymrwymo i fwrw ymlaen 芒 chynlluniau ar gyfer gorsaf dr锚n yng ngorllewin Cymru - bydd hyn yn gostwng y daith rhwng Sir Benfro 芒 Chaerdydd chwarter awr ac yn cynyddu'r cysylltedd o amgylch Abertawe ac felly bydd yn creu gwell cyfleoedd i ranbarth ddinesig Bae Abertawe."
Bydd gorsaf newydd Abertawe - fydd yn costio oddeutu 拢20m - yn cael ei chodi ar reilffordd sy'n cael ei defnyddio ar gyfer cludo nwyddau a'r gobaith yw y bydd y datblygiad yn gostwng nifer y ceir ar yr M4.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae gorsaf Caerdydd Canolog chwe gwaith yn fwy prysur na'r un orsaf arall yng Nghymru ac mae angen dybryd gwario arni er mwyn gwella profiad teithwyr a'i hehangu ar gyfer y dyfodol."
Un o'r cyrff cyhoeddus fydd yn elwa o'r datblygiad yw S4C, yn sgil sefydlu pencadlys newydd yng nghanolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin.
Dywedodd Cadeirydd S4C, Huw Jones: "Rwy'n croesawu datblygiad Parcffordd Gorllewin Cymru ac yn arbennig y ffaith y bydd y buddsoddiad yma'n torri ar y siwrne ar y tr锚n rhwng Caerfyrddin a Chaerdydd.
"Gyda'n pencadlys nawr wedi ei hen sefydlu yn y Gorllewin, mae hyn yn newyddion da i bawb sydd angen teithio o'r naill le i'r llall.
"O ystyried prysurdeb Gorsaf Ganolog Caerdydd, bydd yr ailddatblygu yno hefyd yn newyddion da wrth i S4C baratoi i gydleoli gyda'r 91热爆 yn Sgw芒r Canolog y ddinas."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2019