Ras yr Wyddfa: Torri record yn bosibl
- Cyhoeddwyd
Bydd pennod newydd i'r rhedwyr yn Ras yr Wyddfa ddydd Sadwrn, wrth i'r ras ddod yn rhan o Gwpan y Byd gan Gymdeithas Rhedeg Mynydd y Byd am y tro cyntaf.
Mae hynny'n golygu y bydd yn denu rhedwyr el卯t o bob cwr o'r byd.
Yn sgil hyn mae rhai yn credu y gallai'r record am y ras - sydd wedi sefyll ers 1985 - gael ei thorri o'r diwedd.
34 mlynedd yn 么l cafodd y record o 1 awr a 2 funud ei osod gan yr Albanwr Kenny Stuart, ac mae rheolwr t卯m rhedeg mynydd Cymru, Peter Ryder, yn credu ei bod hi'n bosib gweld rhywun yn torri'r record.
Bydd 670 o redwyr yn cystadlu eleni.
Angen lwc
Dywedodd Peter Ryder: "Mae'r llwybr wedi cael ei newid ac mae'r tir wedi newid dros y blynyddoedd, ond rwy'n credu bod hi'n bosib i dorri'r record.
"Ond i wneud hynny, mae angen cyfuniad o bethau i ddigwydd o'ch plaid chi, o ran y tywydd, y t卯r a'r llwybrau.
"Roedd Kenny Stuart yn gallu rhedeg marathon mewn 2 awr, 12 munud, sy'n adrodd cyfrolau amdano fel rhedwr. Dyna pam mai e sydd dal gyda'r record. "
Yr Eidalwr, Alberto Vender, enillodd ras dynion y llynedd mewn awr, chwe munud, 41 eiliad, tra aeth teitl y merched i'r Gymraes, Bronwen Jenkinson, mewn amser o 1.20.41.
Ni fydd Jenkinson yno i amddiffyn ei theitl eleni, ond mi fydd sawl rhedwr yn gobeithio cipio ei choron, gan gynnwys Lucy Wambui o Kenya, sydd wedi cofrestru am y tro cyntaf.
'Awyrgylch wych'
Yn ogystal, bydd rhedwyr o Awstralia, Seland Newydd, UDA, Hong Kong, Hwngari, Gweriniaeth Tsiec a Malta, a gweddill gwledydd Prydain yn cymryd rhan eleni i ychwanegu at y naws byd eang.
"Dyma'r brif ras mynydd yng Nghymru ac mae'r awyrgylch yn wych," ychwanegodd Ryder.
"Eleni, fel digwyddiad Cwpan y Byd, bydd yn well fyth. Mae'n hynod o boblogaidd ond mae'n hynod o anodd hefyd. "
Bydd rhaglen uchafbwyntiau Ras yr Wyddfa yn cael ei dangos y diwrnod ar 么l y ras, am 20:00, ar nos Sul 21 Gorffennaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2018