91热爆

Beth sy'n gwneud 'Genod Gwych'? Holi'r Gymraes gyntaf i ddringo Everest

  • Cyhoeddwyd
Tori James gyda'r llyfr Genod Gwych a Merched MedrusFfynhonnell y llun, LLUN CYFRANNWR
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tori James - un o'r genod gwych

Mae'r anturiaethwr Tori James wedi ei henwi ymysg 12 menyw ysbrydoledig - yn cynnwys Laura Ashley ac Eileen Beasley - mewn llyfr i blant.

Ond beth oedd yn ei hysbrydoli hi pan oedd hi'n blentyn a phwy mae hi'n edmygu nawr?

Dyna rai o'r cwestiynau fu Cymru Fyw yn gofyn i'r Gymraes gyntaf i ddringo Everest, sydd nawr yn lywydd Girlguiding ac yn siaradwr cyhoeddus.

Sut deimlad ydi gweld eich enw yn y llyfr Genod Gwych a Merched Medrus ymysg pobl fel Betsi Cadwaladr a Betty Campbell?

Anhygoel. Mae'n gwneud i mi ofyn: 'Ai fi oedd honno? Nes i wneud hynny go iawn?' Mae'n teimlo'n debyg i'r balchder oeddwn i'n deimlo pan nes i gyrraedd copa Everest. Mae'n anodd credu bod fy enw yn ymddangos drws nesa' i'r merched hanesyddol ac ysbrydoledig yma.

Ffynhonnell y llun, LLUN CYFRANNWR
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar ben y byd... Tori James ar Everest - y Gymraes cyntaf i gyrraedd y copa

Pam gawsoch chi eich dewis?

Dwi'n si诺r fod disgyblion mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru yn pendroni weithiau: "Sgwn i os oes Cymraes wedi dringo Everest?" Ar draws y byd - ac ers cyn cof - mae merched a dynion wedi cael eu hudo i gopaon mynyddoedd. Mae angen cryfder corfforol a meddyliol - ac mae dringo Everest wedi cael ei ystyried yn uchafbwynt erioed.

Mae dringo Everest wedi siapio fy ngyrfa a dwi'n defnyddio'r llwyddiant i annog pobl eraill i dderbyn sialens, i fynd allan o'u comfort zone a dod yn agosach at yr amgylchedd naturiol mewn ffordd gynaliadwy.

Os fyddech chi'n gallu bod yn un o'r merched eraill yn y llyfr am un diwrnod, pwy fyddai hi a pham?

Jade Jones yn ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd pl卯s. Pan ddes i yn 么l o Everest, nes i edrych ar gynllun 'Girls 4 Gold' oedd yn chwilio am ferched yn y byd chwaraeon oedd 芒'r potensial i gystadlu yn y gemau Olympaidd.

Yn anffodus, roeddwn i'n 25 oed ac yn rhy hen ond dwi'n edmygu pobl sydd wedi mynd i'r Olympics.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jade Jones sydd wedi ennill dwy fedal aur yn y Gemau Olympaidd yn 2012 a 2016 ac yn Grand Prix Taekwondo'r Byd ym Manceinion llynedd

Mae Genod Gwych a Merched Medrus wedi ei anelu at ddarllenwyr ieuengach. Pan oeddech chi'n blentyn, pwy neu beth oedd yn eich ysbrydoli?

Roeddwn i'n caru llyfrau'r Famous Five. Roeddwn i wrth fy modd efo'r teimlad o gyd-weithio mewn t卯m a'r holl anturiaethau - a'r ffaith bod George yr un mor wydn 芒'r hogiau.

Roeddwn i hefyd wrth fy modd yn darllen A Survival Handbook gan Hugh McManners. Roeddwn i'n cadw'r llyfr wrth fy ngwely i ddysgu am sgiliau mordwyo, gwneud lloches mewn eira a chroesi afonydd.

Pan oeddech chi'n iau, beth oedd eich uchelgais?

Yn yr ysgol roeddwn i'n edmygu cyfoedion oedd yn cynrychioli Cymru mewn chwaraeon ac roeddwn i eisiau gwneud yr un peth - ond doeddwn i ddim yn rhagori mewn unrhyw gamp.

Ond ar 么l gorffen Gwobr Dug Caeredin, nes i sylweddoli mod i'n caru antur a theithiau - yn enwedig gallu teithio o A i B gan ddefnyddio egni dynol yn unig a chario eich holl gyfarpar efo chi.

Ffynhonnell y llun, LLUN CYFRANWR
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Tori James fagu hyder ar anturiaethau eraill cyn rhoi cynnig ar Everest

Roeddwn i'n gwneud sialensiau fwyfwy anodd - wnaeth arwain yn y diwedd at Everest. Roeddwn i wedi mynd yn raddol i lefydd oerach, neu ddringo mynyddoedd anoddach - ond wnes i ddim ystyried Everest tan y flwyddyn cyn i mi ei dringo.

Pwy sy'n eich ysbrydoli chi r诺an?

Gwirfoddolwyr. Yr unigolion rheiny ar draws Cymru sy'n rhoi eu hamser a'u talent am ddim i helpu eraill, ac yn gwella eu cymunedau trwy wneud hynny. Anaml maen nhw yn y penawdau neu'n ymddangos mewn llyfr fel hwn, ond does 'na ddim dwywaith eu bod nhw'n haeddu cydnabyddiaeth.

Dwi fy hun yn ddiolchgar iawn i arweinwyr Gwobr Dug Caeredin a Girl Guiding yn Sir Benfro, sydd - fel cannoedd o rai eraill ar draws Cymru - yn helpu pobl ifanc i helpu cyrraedd eu potensial.

Ffynhonnell y llun, IRMS
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Tori James erbyn hyn yn defnyddio'i phrofiad o ddringo Everest i ysbrydoli eraill

Pa rinweddau sy'n gwneud 'genod gwych a merched medrus'?

Dyfalbarhad er gwaetha siom ar 么l siom.

Herio'r status quo a stereoteip.

Cymryd risg er eich bod yn gwybod y gallwch chi fethu'n llwyr!

Beth ydi'ch sialens fwyaf yn y dyfodol?

Byddwn i'n hoffi dysgu Cymraeg yn ddigon da i wneud cyflwyniad yn y Gymraeg - byddai hynny yn sicr o fynd 芒 fi allan o fy comfort zone.

Ddechrau'r flwyddyn wnes i ddechrau dysgu efo'r ap Duo Lingo tra'n teithio i Seland Newydd, ond nes i ddim parhau. Mae cyhoeddi Genod Gwych a Merched Medrus wedi fy sbarduno i ail-afael arni a dysgu Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, LLUN CYFRANNWR
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tori James gyda'i mab yn Seland Newydd - dysgu Cymraeg ydi'r mynydd nesaf mae'r anturiaethwr am goncro

Dwi wedi lawrlwytho Say Something in Welsh ac wedi gwrando ar y tri sesiwn cyntaf ac wedi dysgu fy mab, sydd bron yn ddyflwydd, i gyfri i 10 yn Gymraeg.

Fe wnaeth hynny fy atgoffa bod plant fel sbwng - a gwneud i mi sylweddoli mai r诺an ydi'r amser gorau i ni ddysgu gyda'n gilydd.

Hefyd, dwi'n hel achau ar hyn o bryd ac yn perthyn i'r Llyngesydd John Lort Stokes wnaeth hwylio efo Charles Darwin ar y Beagle. Byddwn i'n hoffi dilyn y daith wnaeth o. Y sialens fwyaf i fi byddai salwch m么r.

O'ch holl lwyddiannau - personol neu broffesiynol - pa un sy'n gwneud i chi deimlo mwyaf balch?

Fydd pobl yn gofyn i mi siarad am fy llwyddiannau yn aml, ond mae'n hawdd anghofio bod methiannau a siomedigaethau tu cefn i bob llwyddiant.

Roeddwn i'n teimlo'n falch iawn tra'n sefyll ar ben Everest, ond pan dwi'n edrych ar fy mywyd dwi'n cael yr un teimlad o falchder o gofio'r holl adegau pan oedd rhaid i mi ail-afael ynddi ar 么l methu.

Er enghraifft, pan nes i ddim cael y canlyniadau oeddwn i wedi gobeithio eu cael yn arholiadau Lefel A a methu mynd i brifysgol, neu'r holl swyddi na ches i eu cynnig.

Dwi'n meddwl mai'r dygnwch 'da chi'n meithrin yn y blynyddoedd cynnar sy'n eich galluogi chi nes 'mlaen mewn bywyd i ddilyn eich breuddwydion.