Y Mehefin gwaethaf ers 20 mlynedd i siopau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae siopau yng Nghymru wedi cael y mis Mehefin gwaethaf ers 20 mlynedd o ran nifer y siopwyr sy'n dod trwy'r drws.
Roedd gostyngiad 5% yn nifer y siopwyr fis diwethaf o'i gymharu 芒 Mehefin 2018, yn 么l Consortiwm Manwerthu Prydain (BRC).
Roedd hynny'n cynnwys gostyngiad 6.1% i siopa ar y stryd fawr a 5.6% yn llai mewn canolfannau siopa.
Dywedodd pennaeth polisi'r BRC yng Nghymru, Sara Jones bod siopwyr yn "delio ag amgylchiadau gwleidyddol ac economaidd cynyddol ansicr".
"Tra bo'r pryderon yma'n cael eu gweld ar draws y DU, mae'n ymddangos bod Cymru'n enwedig yn cael ei tharo gan hyn," meddai.
Fe wnaeth parciau masnach ar gyrion trefi berfformio'n well, ond fe welon nhw ostyngiad o 1% o'i gymharu 芒'r un cyfnod y llynedd - oedd yn waeth yng Nghymru na'r cyfartaledd ar draws y DU.
Mae'r diwydiant manwerthu yn cyflogi 130,000 o bobl yng Nghymru mewn 12,000 o siopau.
Cafodd y sefyllfa ei disgrifio fel un "anodd iawn", gyda chostau fel cyflogau a chyfraddau busnes yn cynyddu.
Mae gostyngiad o 9% wedi bod yn nifer y siopau yng Nghymru dros y degawd diwethaf, ac mae cystadleuaeth gan gwmn茂au ar-lein yn her gynyddol.
"Mae diwydiant manwerthu Cymru yn gweithio'n galed i addasu ac adnewyddu wrth i ddisgwyliadau cwsmeriaid newid a thechnoleg chwyldroi ein sector," meddai Ms Jones.
"Ond mewn amodau mor heriol, mae angen i'r llywodraeth weithredu ar gostau a'r economi i gefnogi ein haelodau."
Ychwanegodd bod angen diwygio'r system cyfraddau busnes "hynafol" er mwyn bod yn decach ac i ymateb yn well i amgylchiadau economaidd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2018