Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Caniat芒d i symud archfarchnad Lidl yng Nghaerfyrddin
Mae cynlluniau i symud archfarchnad Lidl i hen safle gorsaf heddlu yng nghanol Caerfyrddin wedi cael eu cymeradwyo.
Mae'r cwmni'n bwriadu dymchwel yr hen orsaf ar heol Friars Park er mwyn adeiladu'r siop newydd.
Mae'r cynlluniau wedi'u cymeradwyo er gwaethaf gwrthwynebiad ymgyrchwyr sy'n credu y gallai beryglu gweddillion archeolegol.
Roedd Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin yn dweud y gallai'r cynlluniau hefyd gael effaith ar gofeb Bulwarks gerllaw.
Ond fe gyhoeddodd corff Cadw ddydd Mawrth ei bod o'r farn na fyddai'r datblygiad yn cael "effaith annerbyniol" ar y gofeb na'r safle archeolegol.
Yn ei gais dywedodd Lidl bod ei safle presennol yn y dref yn rhy fach i gwrdd 芒 disgwyliadau ei gwsmeriaid.
Dywedodd y cwmni y byddai'n gweithio gyda Cadw a sicrhau y bydd yr archfarchnad yn cadw o fewn y cais cynllunio.