91热爆

Syniadau Johnson yn annerbyniol, medd Mark Drakeford

  • Cyhoeddwyd
Boris JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mark Drakeford fod syniadau Boris Johnson yn "gwbl annerbyniol"

Mae syniadau Boris Johnson yngl欧n 芒 sut y dylai Cymru wario'r arian ddaw i gymryd lle arian o gronfa'r UE yn "gwbl annerbyniol", medd Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford fod sylwadau Mr Johnson wedi cadarnhau rhai o'i ofnau yngl欧n 芒 chynlluniau'r Ceidwadwyr ar gyfer Cronfa Ffyniant a Rennir.

Ond fe wnaeth Mr Drakeford groesawu'r addewid i sicrhau y bydd Cymru yn derbyn yr un faint o arian sy'n dod ar hyn o bryd o gronfa'r UE.

Fe wnaeth Mr Johnson, y ffefryn yn y ras i olynu Theresa May, wneud ei sylwadau mewn hystings yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Tramor, Jeremy Hunt, hefyd ddweud wrth y gynulleidfa "na fydd Cymru ar ei cholled".

Pe bai'r DU wedi parhau yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, fe fyddai Cymru wedi derbyn mwy na 拢5bn erbyn 2020.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mark Drakeford fod y sylwadau yn "cadarnhau rhai o'r ofnau sydd gennym"

Fe ddywedodd Mr Johnson y dylai fod "dylanwad Ceidwadol cryf" yngl欧n 芒 sut mae'r arian ddaw yn ei le yn cael ei wario yng Nghymru.

Ar hyn o bryd Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ei ddosbarthu.

Dywedodd Mr Drakeford wrth gael ei holi gan un o bwyllgorau'r Cynulliad: "Mae'n dda cael cadarnhad y bydd yr arian yn dod yn llawn, os mai dyna beth mae hyn yn ei olygu, oherwydd nid ydym wedi cael cadarnhad o hynny gan unrhyw weinidog o Lywodraeth y DU hyd yma.

"Ond rydym o hyd wedi dweud 'dim ceiniog yn llai, a dim colli grymoedd', a tra bod beth sydd wedi ei ddweud yn helpu rhan gyntaf hynny, dyw hynny yn sicr ddim yn wir am golli grymoedd.

"Yn anfoddus mae'n cadarnhau rhai o'r ofnau sydd gennym am y meddylfryd y tu 么l i'r Gronfa Ffyniant a Rennir."

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Ceidwadwr David Melding AC dywedodd Mr Drakeford nad oedd am i Lywodraeth y DU fod yn "rheithgor ac yn farnwr" yn y modd y byddai arian newydd yn cael ei wario yng Nghymru.