Arestio dau wedi protest amgylcheddol y tu allan i fanc
- Cyhoeddwyd
Mae dau o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad 芒 phrotest y tu allan i fanc yng Nghaerfyrddin.
Yn 么l Heddlu Dyfed Powys fe gawson nhw eu galw am 09:35 dydd Sadwrn ar 么l derbyn adroddiad fod protestwyr y tu allan i Fanc Barclays ar Sgw芒r y Guildhall yn y dref.
Dywedodd un o ohebwyr 91热爆 Cymru bod rhai wedi gludo eu hunain i Fanc Barclays ar Sgw芒r y Guildhall bod gan eraill o'r protestwyr gloeon beic o amgylch ei gyddfau.
Yn 么l llefarydd ar ran y gr诺p ymgyrchu Extintion Rebellion roedd yr unigolion yn protestio yn erbyn buddsoddiadau Barclays mewn tanwydd ffosiledig.
Mae'r ddau a gafodd eu harestio yn parhau yn y ddalfa, meddai'r heddlu.
Cafwyd protest hefyd y tu allan i gangen y banc yn Aberystwyth.