91热爆

Cyngor Caerdydd yn cyhoeddi gweledigaeth i leihau traffig

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dan y cynllun byddai Caerdydd yn troi'n ddinas 20mya

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi eu gweledigaeth i drawsnewid y system drafnidiaeth yn y brifddinas.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys llinell reilffordd i gysylltu dwyrain a gorllewin Caerdydd, a llinell arall fyddai'n mynd o amgylch y ddinas.

Nod y cynllun, fyddai'n costio 拢1bn, yw lleihau traffig a gwella ansawdd aer yng Nghaerdydd.

Dan y cynllun byddai Caerdydd yn troi'n ddinas 20mya, gyda llwybrau cerdded a seiclo newydd yn cael eu creu i annog pobl o'u ceir.

Wrth siarad yng Nghynhadledd Llywodraeth Cymru ar Deithio Llesol, dywedodd arweinydd y cyngor, Huw Thomas ei bod yn "amser gweithredu ar anghenion trafnidiaeth y ddinas".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cyngor wedi cyhoeddi map o'r cynigion am linellau rheilffordd newydd

Byddai'r mesurau newydd yn cynnwys:

  • Tr锚n Bach Caerdydd - llinell reilffordd/tram newydd ysgafn o'r dwyrain i'r gorllewin, gan gysylltu canolfannau poblogaeth mawr a maestrefi newydd yn y gorllewin 芒 Chanol Caerdydd;

  • Cylchred Caerdydd - llinell reilffordd/tram ysgafn i gysylltu ardaloedd preswyl mawr 芒'r rhwydwaith trafnidiaeth;

  • Parcio a theithio ger cyffordd 32 yr M4 wedi'i gysylltu 芒'r Gylchred;

  • Rhwydwaith Trafnidiaeth Bws Cyflym newydd sy'n defnyddio cerbydau gwyrdd a thrydanol;

  • Beicffyrdd a llwybrau cerdded diogel newydd sy'n cysylltu 芒 rhwydweithiau bws, tr锚n a thram;

  • System docynnu integredig sy'n galluogi defnyddwyr i symud o un dull trafnidiaeth i'r llall yn hawdd;

  • Gwneud Caerdydd yn ddinas 20mya.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Huw Thomas ei bod yn "amser gweithredu ar anghenion trafnidiaeth y ddinas"

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Mae angen i rwydwaith trafnidiaeth Caerdydd newid.

"Cafodd ei ddylunio'n wreiddiol i ddinas 芒 phoblogaeth o 200,000 ond heddiw mae ein poblogaeth yn agosach at 400,000 ac mae 80,000 o bobl yn ychwanegol yn teithio i'r gwaith yn y ddinas yn eu ceir bob dydd.

"Mae'n amlwg i bawb nad yw'r sefyllfa'n gynaliadwy. Mae gennym rwydwaith sydd eisoes yn gwegian. Mae popeth yn stopio os yw un ffordd yn y ddinas yn cau.

"Mae'n amlwg na fyddwn yn llwyddo dros nos, ond heddiw rydym yn cyflwyno dyhead y cyngor gan gydnabod yn llawn y bydd angen gweithio'n effeithiol gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.

"Mae angen hefyd drafodaeth gyhoeddus ddwys am sut mae modd ariannu'r weledigaeth hon."