91热爆

Sain Ffagan yn ennill gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Sain FfaganFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan wedi cael ei chyhoeddi fel enillydd gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn 2019.

Fe ddaeth i'r brig o flaen pedair o amgueddfeydd eraill ar draws Prydain i hawlio'r wobr o 拢100,000.

Dywedodd Stephen Deuchar, cyfarwyddwr Art Fund a chadeirydd beirniaid y gystadleuaeth, fod Sain Ffagan yn "crisialu diwylliant a hunaniaeth Cymru".

Y pedair amgueddfa arall ar y rhestr fer oedd HMS Caroline ym Melffast, y Nottingham Contemporary, Pitt Rivers yn Rhydychen, a'r V&A yn Dundee.

Ffynhonnell y llun, Sain Ffagan

Wrth dalu teyrnged i Sain Ffagan dywedodd Mr Deuchar fod yr amgueddfa, sydd ar gyrion Caerdydd, wedi llwyddo i ddenu nifer o ymwelwyr newydd yn dilyn y datblygiadau diweddar.

"Fe gafodd y lle hudolus hwn ei wneud gan bobl Cymru ar gyfer pobl o bobman, ac mae'n un o'r amgueddfeydd mwyaf croesawgar ac atyniadol yn y DU," meddai.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Sain Ffagan|StFagans

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Sain Ffagan|StFagans

Llynedd cafodd gwerth 拢30m o welliannau i Amgueddfa Werin eu cwblhau, gan gynnwys adeiladau newydd a gwelliannau i'r arlwy i ymwelwyr.

Roedd y datblygiadau ar y safle yn cynnwys Bryn Eryr, fferm Oes Haearn sy'n seiliedig ar safle o oes y Rhufeiniaid, a Llys Llywelyn, sy'n seiliedig ar safle archeolegol Llys Rhosyr ar Ynys M么n.

Cafodd adeilad newydd y Gweithdy hefyd ei agor, ble mae modd gweld ac ymarfer sgiliau crefftwyr traddodiadol.