91热爆

Eisteddfod: Cynllun traffig er mwyn osgoi tagfeydd

  • Cyhoeddwyd
LlanrwstFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r trefniadau'n cynnwys system unffordd dros dro ar bont Llanrwst

Bydd system unffordd dros dro ar waith yn Llanrwst ym mis Awst wrth i'r dref baratoi i groesawu dros 100,000 o bobl ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae'r trefnwyr a Heddlu Gogledd Cymru'n dweud y bydd cyfarwyddiadau arbennig i yrwyr er mwyn osgoi tagfeydd difrifol.

Mae'r Brifwyl yn cael ei chynnal wrth ochr y A470 ychydig i'r de o Lanrwst rhwng 3 a 10 Awst.

Roedd pryder wedi'i fynegi am effaith y nifer fawr o ymwelwyr ar lif traffig drwy strydoedd cul canol y dref.

Mae'r trefniadau'n cynnwys system unffordd dros dro ar bont Llanrwst, fydd ar gael i draffig sy'n gadael y dref yn unig.

Hefyd bydd:

  • Meysydd parcio penodol i'w cael wrth i yrwyr gyrraedd o bob un o'r tri phrif gyfeiriad posib;

  • Llwybrau cerdded a beicio wedi'u cynllunio er mwyn symud yn hwylus rhwng y dref 芒'r maes, y maes carafanau a'r meysydd pebyll;

  • Gwasanaethau bysiau gwennol yn cael eu darparu am ddim lle bod angen.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llanrwst, Sir Conwy fydd lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2019

Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod Betsan Moses mai'r "nod i ni yw sicrhau na fydd strydoedd cul y dref hardd a hanesyddol hon yn cael eu tagu gan draffig".

"Ar y cyd 芒'n partneriaid, ry'n ni wedi cytuno ar system reoli traffig benodol ar gyfer y digwyddiad," meddai.

"Mae hyn yn bwysig er mwyn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd hefyd wrth gwrs."

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Neil Thomas o Heddlu Gogledd Cymru y bydd y cynlluniau traffig yn cael eu hadolygu ac y bydd "swyddogion yr heddlu ar ddyletswydd drwy gydol yr wythnos o amgylch yr ardal".