91热爆

Miliwn o siaradwyr Cymraeg: 'Angen diweddariadau amlach'

  • Cyhoeddwyd
Eluned Morgan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Ceidwadwyr am i Eluned Morgan roi diweddariad bob chwe mis

Mae galwadau ar Lywodraeth Cymru i roi diweddariad pob chwe mis yngl欧n 芒 sut maen nhw'n gweithio tuag at eu targed i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Yn y Cynulliad yn ddiweddarach dydd Mercher, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru ddiweddaru ACau am y strategaeth ddwywaith y flwyddyn.

Cafodd y strategaeth ei lansio yn 2016, a'r bwriad yw sicrhau'r nod erbyn 2050.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi ymrwymo'n llwyr i gyrraedd y nod a bod cynlluniau gweithredu wedi eu llunio i gyrraedd y targedau.

Diweddariadau 'llawn a chyson'

Mae'r targed yn uchelgeisiol, ond mae wedi derbyn cefnogaeth drawsbleidiol ym Mae Caerdydd.

Ond mae'r gwrthbleidiau eisiau mwy o wybodaeth am sut mae'r llywodraeth yn gweithio tuag at y nod.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru eisiau gweld diweddariad gan Weinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, bob chwe mis.

Dywedodd yr AC Ceidwadol, Suzy Davies, bod angen cyfle i holi'r gweinidog am y cynllun.

"Yn enwedig ar strategaeth sydd wedi gweld lot o newidiadau, byddwn yn disgwyl i'r gweinidog roi diweddariadau llawn a chyson.

"Mae'n siom ei fod yn debygol y bydd y cynnig yn cael ei wrthod gan y llywodraeth, ac mae'n rhaid gofyn, pam?"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd yr AC Ceidwadol, Suzy Davies, bod angen cyfle i holi'r gweinidog am y cynllun.

Ychwanegodd Ms Davies hefyd fod angen edrych ar r么l Comisiynydd y Gymraeg.

"Mae gan y Comisiynydd nifer o bwerau i ymgynghori ac i orfodi cyrff cyhoeddus i gymryd sylw o'u hawliau nhw ac i ddilyn y safonau.

"Ond os mae gyda ni sefyllfa ble mae corff cyhoeddus yn mynd yn rhy bell ac yn rhy awyddus yngl欧n 芒'r safonau, does dim lle i rai sydd ddim yn siarad Cymraeg i gwyno, dim ond yn y llysoedd.

"Os ydyn ni am weithio ar y sail fod y ddwy iaith yn gyfartal, well i ni ddechrau ystyried sut i helpu'r rhai sy'n cwyno," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru eu bod "yn galw am fwy o graffu ar y polisi yma a hoffwn weld mwy o dryloywder ar y gwaith".

Diweddariadau

Mewn ymateb i'r galwadau, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym ni wedi cyhoeddi cynllun uchelgeisiol er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050 ac rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i wneud yn si诺r ein bod yn cyrraedd y nod.

"Er mwyn cefnogi ein Strategaeth Iaith, Cymraeg 2050, rydym ni hefyd wedi cyhoeddi Rhaglen Waith ar gyfer 2017 - 2021 ac rydym yn llunio cynlluniau gweithredu blynyddol sy'n rhoi mwy o fanylion am yr hyn a wnawn fel Llywodraeth i gyrraedd yr amrywiol dargedau.

"Rydym yn croesawu'r gefnogaeth drawsbleidiol a gaiff Cymraeg 2050 a byddwn yn parhau i gynnig diweddariadau ar yr amrywiol brosiectau yr ydym yn ymgymryd 芒 nhw ar y daith tuag at y Miliwn."