91热爆

'Angen gwella mynediad i gymorth arbenigol pobl ddall'

  • Cyhoeddwyd
Megan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Megan nad oedd yn hawdd gwybod at bwy i droi er mwyn cael cymorth

Mae cael mynediad i gymorth arbenigol ar gyfer pobl sy'n ddall neu'n rhannol ddall yn amrywio'n fawr ledled Cymru, yn 么l adroddiad.

Mae elusennau'n honni bod diogelwch pobl ddall yn cael ei beryglu oherwydd prinder staff arbenigol.

Mae swyddogion adsefydlu i bobl 芒 nam ar eu golwg yn helpu unigolion gyda thasgau dyddiol fel coginio, glanhau a chroesi'r ffordd, pan fydd eu golwg yn dirywio.

Yn 么l Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mae cynghorau dan bwysau sylweddol oherwydd toriadau ac yn gweithio'n galed i ddiogelu gwasanaethau.

Mae canllawiau elusennau yn awgrymu y dylai pobl sydd wedi colli eu golwg gael eu cyfeirio at y swyddogion arbenigol o fewn 28 diwrnod wedi iddyn nhw gysylltu 芒'u cyngor.

Ond mae adroddiad newydd gan elusennau golwg yn honni bod diogelwch pobl yn cael ei beryglu oherwydd diffyg swyddogion adsefydlu, gyda rhai yn aros am fisoedd am help.

Mae'r ymchwil yn nodi mai dim ond 12 awdurdod lleol allan o 22 sy'n cyrraedd y safon ofynnol o gael un swyddog adsefydlu fesul 70,000 o'r boblogaeth.

Ar hyn o bryd, 34 swyddog adsefydlu sy'n gweithio'n llawn amser yng Nghymru - gyda dim ond pedwar o'r rheiny'n siarad Cymraeg.

I sicrhau'r arfer gorau mae angen cyflogi 60 o swyddogion.

'Hyder i fod yn annibynnol'

Un a gafodd gymorth swyddog adsefydlu dair blynedd yn 么l yw Megan John, 27 oed o Gaerdydd.

Fe dderbyniodd hyfforddiant i ddefnyddio ffon wen a dysgu sut i gadw at lwybrau'n ddiogel.

Cafodd ei geni heb iris - y rhan lliwgar o'r llygad sy'n rheoli faint o olau sy'n cyrraedd y retina.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Megan yn cerdded drwy ganol Caerdydd i fynd i'r gwaith gan ddefnyddio ffon wen

Mae'n cerdded i'r gwaith yn gyson drwy ganol y ddinas, ond mae'n dweud bod sawl rhwystr yn ei hwynebu.

"Mae 'na lot o bethau - pobl - os mae'n brysur mae'n gallu bod yn anodd symud mewn ac allan, beiciau, mae beiciau'n un o'r prif bethau ac unrhyw rwystrau fel biniau a pholion lamp," meddai.

Mae hi'n defnyddio ffon wen hir pan mae'r tywydd yn gymylog iawn a'r awyr yn wyn, gan fod hynny'n brifo ei llygaid.

"I fi - be' mae'r ffon yn gwneud yw rhoi'r hyder i fi fod yn annibynnol a rhoi'r rhyddid i fi 'neud be' bynnag fi moyn," meddai.

Blaenoriaethu

Dywedodd Dafydd Eckley - uwch swyddog adsefydlu gyda Chymdeithas y Deillion Gogledd Cymru - mai dau swyddog llawn amser sydd yng Ngwynedd a'i fod yn gorfod teithio'n eang ar draws y sir i weld y 500 o gleientiaid sydd 芒 nam golwg.

"Fel ym mhob sir arall yng Nghymru mae 'na restr aros, a 'da ni'n gorfod blaenoriaethu'r achosion mwyaf anghenus a difrifol," meddai.

"Falle bod rhai pobl wedi colli eu golwg dros nos, neu wedi cael damweiniau oherwydd eu nam golwg neu'n dioddef yn emosiynol, a 'da ni wrth reswm yn ceisio blaenoriaethu'r rheiny, ond yn anffodus mae hynny'n golygu bod 'na restr aros o oddeutu tri mis."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Dafydd Eckley fod y sefyllfa wedi gwaethygu yn ystod ei 20 mlynedd yn y maes

Dywedodd nad oedd hyn yn sefyllfa ddelfrydol gan fod y gwasanaeth yn un arbedol, un sy'n gallu arbed pobl rhag cael anafiadau, trafferthion iechyd meddwl, iselder ac alcoholiaeth mewn rhai achosion.

Mae pryderon hefyd y bydd y pwysau ar y gwasanaeth yn cynyddu, gyda'r corff sy'n goruchwylio swyddogion yn dweud bod tua chwarter y rhai sy'n gweithio yn y maes yn mynd i ymddeol yn y pum mlynedd nesaf.

"Mae o'n boen meddwl be' sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol," meddai Mr Eckley.

'Penderfyniadau anodd'

Dywedodd Elin Edwards o elusen RNIB Cymru fod angen i gynghorau fuddsoddi yn y gwasanaeth i helpu pobl i gadw eu hannibyniaeth.

"Mae gwasanaethau fel rehab yn galluogi pobl sydd 芒 golwg rhannol neu bobl ddall i fyw bywydau annibynnol ac mae cymorth o'r math yma'n medru helpu rhywun efo symud, mynd i'r siopau a helpu yn y t欧," meddai.

"'Da ni'n gwybod bod hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd rhywun. Mae'n sicrhau eu bod nhw'n medru cario 'mlaen er bod y golwg falle'n newid.

"Mae'n bwysig bod rhywun yn cael mynediad i'r gwasanaethau arbenigol yma."

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod cynghorau dan bwysau sylweddol oherwydd toriadau, ond eu bod yn "parhau i fod yn ymrwymedig i ddiwallu anghenion pobl ddall a rhannol ddall".