Ateb y Galw: Yr Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd
- Cyhoeddwyd
Eleni, mae yna Archdderwydd newydd wedi dechrau ar y swydd, sef Myrddin ap Dafydd, a hynny yn y dref lle cafodd ei eni, Llanrwst.
Enillodd y Prifardd gadeiriau eisteddfodol yn 1990 a 2002. Sefydlodd Gwasg Carreg Gwalch yn 1980, ac mae hefyd yn gyfarwyddwr ar Oriel Tonnau a Chwrw Ll欧n.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Drwy niwl y bore, mae gen i gof am ddamwain rhwng fy llaw chwith ac olwyn cadair olwyn cymydog inni yn y cefnydd yn Llanrwst. Rhyw dair oed oeddwn i ar y pryd ac mi ges 18 o bwythau yn fy mysedd.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Dibynnu pwy oedd yn canu ar Disg a Dawn y Sadwrn cynt.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Arwisgo 1969. Do'n i mond 12 oed ond doeddwn i ddim yn medru credu ein bod ni fel cenedl mor dwp yngl欧n 芒 phwy oeddan ni.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Llenwi, nid cr茂o ydi hi erbyn hyn, mae'n si诺r. Mi fydda i'n gwneud hynny wrth sgwennu, wrth siarad yn gyhoeddus ac wrth ddarllen rhywbeth emosiynol.
Dwi'n darllen nofel i blant am Eidalwyr De Cymru ar hyn o bryd - mae clywed be' wnaeth llywodraeth Llundain iddyn nhw adeg yr Ail Ryfel Byd yn gwneud i mi lenwi.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'n osgoi ateb cwestiynau weithiau.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Amryw, amryw, amryw. Dwi newydd fod yn cerdded rhan o lwybr arfordir Ll欧n. Harddwch, tawelwch, cwmni.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Caerfyrddin, Medi 1974. Gwynfor yn ei 么l. Aeth hi'n 50 awr heb gwsg.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Bore mae'i dal-hi.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Cerddi'r Cywilydd gan Gerallt Lloyd Owen; One Flew Over the Cuckoo's Nest.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Iolo Morganwg. Fysa fo'n medru gwagio'r Corn Hirlas tybed?
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n bwyta rhyw fath o nionyn bob dydd o'r flwyddyn.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mynd am blatiad o fwyd m么r i Aberdaron (a Chwrw Ll欧n wrth gwrs).
Beth yw dy hoff g芒n a pham?
Hi yw fy ffrind gan Ems. Dwi'n hoff iawn o'r 'Pe gallwn fod' gwylaidd ar y dechrau.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
1af: Cregyn gleision; 2il: G诺ydd; 3ydd: Unrhyw beth sy'n cynnwys ffrwythau, neu - os ydi o ar gael - affagato, sef coffi espresso dros hufen i芒 fanila.
Ac mae'n si诺r y byswn i'n adrodd stori Dudley am 诺r gydag acen Caerdydd yn gofyn am hwn dramor ac yn cael sioc pan ddaeth y gweinydd 芒 'alf o' gateau iddo!
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Yr un sy'n cael ei gadeirio.
Oes gen ti un digwyddiad o Eisteddfod Llanrwst 1989 sy'n aros yn y cof?
Ddiwedd pnawn Mercher, ro'n i a chriw y Pwyllgor Maes yn disgwyl y tu allan i ddrws ochr y Pafiliwn i ddefod y Fedal L锚n orffen fel ein bod ni'n medru hebrwng yr enillydd yn syth i'r Babell L锚n.
Roedd hi'n arllwys y glaw am ein pennau ni ac roeddan ni fel chwid. Dyma Trebor Edwards yn codi'n calonnau ni drwy ddeud, 'Wel, diolch byth nad ydi hi'n eira, hogia!'.
Hefyd o ddiddordeb: