Swyddi ffatri gaws GRH ger Penrhyndeudraeth yn y fantol
- Cyhoeddwyd
Mae dyfodol 82 o swyddi yn y fantol yng Ngwynedd ar 么l i ffatri gaws GRH Food Company ym Minffordd ger Penrhyndeudraeth fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Cafodd GRH - cwmni sy'n cyflenwi caws i farchnadoedd yn y DU a thramor - ei sefydlu yn 1989 gan gyflogi 86 o bobl ym Mharc Busnes Eryri.
Mae pedwar o bobl yn parhau i weithio ar y safle, wrth i waith y gweinyddwyr fynd rhagddo.
Mae AS Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd.
'Ymchwilio i bob opsiwn'
Dywedodd Paul Dumbell ar ran y gweinyddwr, KPMG: "Roedd GRH yn fusnes uchelgeisiol oedd wedi tyfu yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae costau cynyddol wedi rhoi gormod o bwysau ar gyllideb y cwmni.
"Er gwaethaf ymdrechion i werthu, doedd dim modd dod o hyd i brynwr.
"Er na fydd y safle yn parhau i gynhyrchu yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn parhau i ymchwilio i bob opsiwn ar gyfer y safle."
Ar y Post Cyntaf fore Mawrth, dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas o Gyngor Gwynedd bod y newyddion yn "ergyd ofnadwy o drom i'r ardal", a hynny yn "enwedig o gysidro'r colli swyddi sy' 'di bod yn ddiweddar".
Dywedodd Mr Thomas, sydd 芒 chyfrifoldeb am yr economi ar y cyngor, bod y cyngor yn "trio'n gorau i ddylanwadu ar y llywodraeth i ddod ag arian i mewn" a bod gobaith am gynllun twf gogledd Cymru hefyd.
Ychwanegodd ei fod yn deall bod gan gwmn茂au eraill ddiddordeb yn y safle.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.