Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dysgu yn yr awyr agored yn cynnig 'profiadau bythgofiadwy'
Mae canllawiau newydd sydd yn gosod fframwaith i athrawon ar gyfer dysgu yn yr awyr agored wedi cael eu lansio ddydd Gwener.
Gobaith y cynllun yw sicrhau bod yr awyr agored yn "rhan annatod" o addysg.
Bydd yn targedu addysg plant a phobl ifanc rhwng 3 a 25 oed ac yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion, cholegau, gwasanaethau ieuenctid, a chlybiau.
Dywedodd y naturiaethwr Iolo Williams, ei fod yn "siomedig" nad oedd gwleidyddion wedi mynychu'r gynhadledd lansio.
Yn 么l Llywodraeth Cymru dydy gweinidogion ddim yn gallu mynychu "pob digwyddiad y gwahoddir hwy iddo oherwydd ymrwymiadau eraill yn eu dyddiaduron".
"Mi yda' ni yn clywed gymaint heddiw am broblemau iechyd meddwl, gordewdra a diffyg ymarfer corff yn gyffredinol ac mae gan yr awyr agored ran bwysig iawn i'w chwarae yn taclo'r problemau yma," meddai Mr Williams.
"Doeddwn i ddim yn mwynhau addysg ffurfiol, ac mae 'na amryw yr un peth a fi, ond mi oeddwn i wrth fy modd yn mynd allan 'efo taid a mam am dro yn dysgu am fyd natur.
"Dwi'n gweld yr adnodd yma fel hwb i fwy o blant ac oedolion wneud yr un peth, gan ddysgu yn yr awyr agored."
'Dibynnu ar unigolion'
Mae dysgu yn yr awyr agored yn amrywio o fynd allan i edrych ar flodau gwyllt, mesur bonyn coeden, cyfri' niferoedd bywyd gwyllt ac adar i anturiaethu mewn nentydd, afonydd a'r mynyddoedd.
Nod y canllaw ydy gosod camau er mwyn gwneud hynny, gyda'r cyntaf yn canolbwyntio ar fwynhad disgyblion.
Cafodd y canllaw ei lansio mewn cynhadledd yng Nghapel Curig ddydd Gwener, ond yn 么l Mr Williams doedd yr un gwleidydd wedi mynychu.
"Mae'n siomedig gweld bod yr addysg mewn ysgolion yn aml iawn yn dibynnu ar unigolion," meddai.
"Os oes gan rywun athro neu athrawes sy'n mwynhau'r awyr agored, yna mae o'n mynd i ddod fewn i'r dosbarth.
"Dyle fo ddim bod felly - fe ddylai'r canllawiau 'ma ddod o'r lefel uchaf.
"Ond ar hyn o bryd, dydy hynny ddim yn digwydd - ac os da ni methu denu gwleidyddion i gynhadledd mor bwysig 芒 hyn, sut ar wyneb daear yda ni'n mynd i wneud hynny?"
Cafodd y canllaw ei ddatblygu gan Banel Ymgynghorwyr Awyr Agored Cymru mewn partneriaeth gyda Chyngor Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru.
Dywedodd Arwel Elias, Ymgynghorydd Gwasanaeth Awyr Agored Gogledd Cymru, fod y canllaw yn cysylltu plant 芒'r awyr agored.
"Mae'n cyfoethogi profiadau dysgu, 'de ni'n gwybod mai'r profiadau gorau a mwyaf grymus ydy bod tu allan a bod hynny yn ysbrydoli dysgu yn y dosbarth," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn anffodus, nid yw gweinidogion Llywodraeth Cymru'n gallu mynychu pob digwyddiad y gwahoddir hwy iddo oherwydd ymrwymiadau eraill yn eu dyddiaduron.
"Mae hefyd yn anodd i weinidogion fynychu digwyddiadau sy'n cwympo ar ddydd Gwener, sef y diwrnod maent yn gweithio ar faterion etholaethol trwy eu r么l fel Aelodau Cynulliad lleol.
"Mae'r cwricwlwm drafft newydd yn hyrwyddo pwysigrwydd dysgu yn yr awyr agored i gefnogi iechyd a lles corfforol, a chwarae wrth ddysgu mewn amrywiaeth o amgylcheddau."