Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Cyn-gyflwynydd S4C Gwenllian Jones
Y cyn-gyflwynydd Gwenllian Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.
Roedd hi'n gyflwynydd ar S4C am flynyddoedd, ond mae hi bellach yn mwynhau bod yn fam ac yn helpu i gyd-redeg cwmni adeiladu draw yn Sydney.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dwn'im ond dwi yn cofio trio dilyn y geifr hefo papur t欧 bach rownd y cae i sychu eu pen-olau. Ella mod i yn 3 neu 4 oed.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Black Beauty, Red Rum, Steve McQueen, Paul Newman, Robert Redford, Raquel Welch, Blondie, Sylvester Stallone a Bruce Springsteen.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Pi-pi ar y bws Ysgol Sul ar 么l bod yn Gylchwyl pan o'n i tua 7 neu 8 oed mewn ffrog cheesecloth lliw hufen a walk of shame wedyn oddi ar y bws.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Dwi heb gr茂o ers blynyddoedd - meddwl weithiau fod 'na rwbath yn bod arna'i ond dwi'n gwbod mi ddaw rhyw ben pan fydda'i mewn d诺r.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Byta crisps yn gwely yn gwylio Netflix. A dwi'n ddiamynedd.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
W! Bob man - a l么n gefn bob tro.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Ar 么l bod yn Nulyn hefo criw mawr o genod a chyrraedd yn 么l - pawb o dan flancedi a Dic Ben yn chwarae un c芒n hudolus ar 么l y llall i ni.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Daearol, diamynedd a gobeithiol.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Llyfr: Mutant Message Down Under gan Marlo Morgan.
Ffilm: The Jerk, Tootsie, Godfather Part II.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Hywel Dda neu wrach 'honedig' o'r canol oesoedd.
O archif Ateb y Galw:
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n gallu bod yn bryderus ac yn swil.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Bod mewn d诺r, ar gefn ceffyl, ffrindiau, teulu, cerddoriaeth.
Beth yw dy hoff g芒n a pham?
Yr emyn Mi a glywaf dyner lais... w ella 'na dyna'r tro dwytha' nes i gr茂o.
Make Me Smile (Come up and See me), Steve Harley & Cockney Rebel - achos mae hi'n g芒n bop berffaith, yn gyfle i neud 'W, la-las' a solo git芒r Sbaeneg sy'n gneud chdi droi.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Kingfish Sashimi. Prawn linguini efo chilli. Rhyw mousse siocled tywyll.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Johanna Nordblad - y ddynas 'na sy'n nofio o dan y rhew - jyst i weld.
Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Daniel Glyn