Ateb y Galw: Ffion Dafis
- Cyhoeddwyd
Ffion Dafis sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Lowri Morgan yr wythnos diwethaf.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Eistedd ar lawr cegin fferm Nain a Taid yn Melin y Wig yn gwylio Nain yn wael iawn yn ei chadair. Wnai fyth anghofio oerni'r llawr teils coch 'na.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Hogyn oedd yn y chweched dosbarth pan o'n i yn y flwyddyn gyntaf. Doedd o ddim yn gwybod am fy modolaeth i. Dwi'n ei weld o yn Tesco Bangor pan dwi'n y Gogledd ac mae 'na rywbeth dal yn digwydd i mi!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Mae'n gas gen i ei dd'eud o ond dwi'n un o'r rhai sydd wedi cael fy nal yn siarad am bobl pan ar wyliau tramor a rheiny'n troi allan i fod yn siaradwyr Cymraeg. Dal yn chwysu wrth feddwl am wyliau sgio yn Ffrainc.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Cofio Aberfan.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Bwyta ac yfed yn rhy gyflym.
P'run yw dy hoff le yng Nghymru a pham?
Dolwyddelan. Ges i fy magu yno tan o'n i'n wyth oed. Adra.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Dwi'n falch o ddweud fod gen i fywyd sydd wedi cynnig ambell un o'r rhain i mi (ymysg rhai gwael drybeilig hefyd). Maen nhw yn ddi-eithriad yn cynnwys ffrindiau.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Bl锚r. Eangfrydig. Sensitif.
Beth yw dy hoff lyfr?
Little Book of Fairies. Fe gysgais efo fo o dan fy nghobennydd am flynyddoedd pan yn blentyn... mewn gobaith. Mae o dal gen i.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Dwi'n byw mewn jeans.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
The Girl on the Train. Peidiwch boddran.
Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?
Ruth Wilson.
Dy hoff albwm?
Dummy gan Portishead.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a be' fyddai'r dewis?
Prif gwrs. St锚c ffilet efo salad mango a betys
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?
Donald Trump, i gael gwybod yn union beth sy'n mynd ymlaen o dan y fferet ar ei ben. Dim ymennydd dwi'n sicr.
Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Mark Lewis Jones