91热爆

Modelu dillad merch o Lambed mewn sioe yn Llundain

  • Cyhoeddwyd
Rhan o arddangosfa Heini Thomas yn sioe ffasiwn LlundainFfynhonnell y llun, Rosa Fay
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhan o arddangosfa Heini Thomas yn sioe ffasiwn Llundain

Bydd dillad sydd wedi cael eu gwneud gan ferch o Lambed yn cael eu harddangos mewn sioe ffasiwn yn Llundain ddydd Llun.

Mae Heini Thomas yn fyfyrwraig trydedd blwyddyn mewn coleg yng Nghaerfaddon ac yn un o'r rhai sydd wedi cael ei dewis i gynrychioli'r coleg yn y 'Student London Fashion Week'.

Wrth siarad 芒 Cymru Fyw dywedodd Heini ei bod mor falch i'w gwaith hi gael ei ddewis.

"Mae'n fraint enfawr. Does dim lot yn cael y siawns i arddangos eu gwaith yn Llundain," meddai.

"Er mwyn cyrraedd yno roedd rhaid i fi greu casgliad o waith ac mi ddewisais i gynllunio dillad a oedd yn seiliedig ar wisg y 50au."

Cyn mynd i goleg Caerfaddon bu Heini yn gwneud cwrs sylfaen mewn coleg yng Nghaerfyrddin.

'Diwydiant cystadleuol'

Dywedodd: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr. Mae 'da fi amrywiaeth o ddillad - o siacedi tailored i drowseri wide leg - mae'r rhan fwyaf ohonynt yn ddu a gwyn, a phinc, coch a melyn.

"Be dwi'n gobeithio yw y bydd rhywun mas fanna yn lico fy ngwaith i - mae'n ddiwydiant hynod o gystadleuol."

Ffynhonnell y llun, Heini Thomas
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae teulu Heini wedi teithio o Lambed i fod gyda hi yn Llundain

Wrth gael ei holi am faint y dillad ac a oedd llai o bwysau bellach ar gael modelau hynod o fach dywedodd Heini bod ei dillad hi ar gyfer meintiau rhwng 8-10.

"Mae'r byd ffasiwn yn well o ran bod yn fwy ymwybodol am broblemau a all godi wrth iddynt ddefnyddio modelau bach ond fydden i'n gweud bod y catwalk dal yn eitha restricted," meddai.

"Fi'n edrych 'mlaen yn fawr at y digwyddiad - mae wedi bod yn lot o waith ond bydd e'n ffab gweld rhywun yn modelu fy nillad i ar y catwalk yn y sioe."

Fydd Heini ddim ar ben ei hun yn y sioe yn Shoreditch, Llundain gan bod nifer o ffrindiau a theulu o Lambed wedi teithio i Lundain i'w chefnogi.

Dywedodd ei mam, Helen: "Bydd e'n brofiad bythgofiadwy.

"Dyw e ddim yn syndod i fi bod hi wedi dilyn y llwybr yma - roedd hi wastad yn tynnu lluniau pan yn fach ac ers hynny mae wedi bod 芒 diddordeb yn y byd celf a gwn茂o. Ni wir yn edrych ymlaen."