Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ap锚l bachgen i arnofio rhag boddi wrth ddiolch i achubwyr
Mae bachgen 10 oed a fu bron 芒 boddi oddi ar arfordir G诺yr yn annog pobl i gofio cyfarwyddyd syml all eu cadw'n fyw pe tasen nhw'n mynd i drafferthion oddi ar yr arfordir.
Cafodd Jude Rees ei sgubo gan gerrynt cryf fis Awst y llynedd wrth badlo gyda'i deulu yn ardal Pwll Glas yn Broughton Bay.
Ond wrth gwrdd 芒'r unigolion fu'n rhan o'r ymateb i'r digwyddiad a diolch iddynt am achub ei fywyd, mae Jude yn pwysleisio pwysigrwydd cyngor yr RNLI i arnofio ar y cefn ac osgoi cynhyrfu mewn amgylchiadau tebyg.
Dyna'r cyngor a gafodd yntau y llynedd gan fenyw leol, Ceri Saunders a aeth i'r d诺r i'w achub ar 么l gweld bod y cerrynt yn rhy gryf iddo nofio'n 么l i'r lan.
Cafodd Jude a'i fam gyfle i gwrdd 芒 Ms Saunders a gwirfoddolwyr bad achub Porth Tywyn wrth i'r RNLI gadarnhau bod 18 o bobl wedi marw oddi ar arfordir Cymru yn 2018.
Mae'r ystadegau'n dangos bod:
- 94% o'r bobl fu farw - 17 allan o 18 - yn ddynion;
- 39% rhwng 36 a 50 oed; a
- 28% rhwng 19 a 35 oed.
- Roedd 39% ddim wedi bwriadu mynd i'r d诺r, ac wedi gwneud hynny ar 么l llithro, baglu neu syrthio wrth gerdded neu redeg.
15 oedd nifer y marwolaethau ar gyfartaledd bob blwyddyn yn y cyfnod rhwng 2014 a 2018, ond roedd cyfanswm 2017 - wyth, a phob un yn ddyn - yn sylweddol is.
Dywed yr RNLI bod tywydd poeth haf y llynedd wedi cyfrannu at y cynnydd yn 2018 wrth i bobl heidio i'r arfordir, ond bod y ffigyrau'n dangos bod angen mwy o waith i leihau'r perygl ymhlith dynion.
Mae ymgyrch y gwasanaeth ar gyfer haf eleni yn cynghori'r cyhoedd i ymlacio ac arnofio ar y cefn os ydynt yn mynd i drafferthion mewn d诺r oer.
Trwy wneud hynny, yn hytrach na chynhyrfu a gorflino wrth geisio nofio, mae'n haws i reoli'r anadl ac osgoi llenwi'r ysgyfaint 芒 d诺r.
Dywedodd Chris Cousens o'r RNLI: "Mae modd osgoi llawer o'r marwolaethau trasig ar yr arfordir os yw pobl yn deall y risgiau ac yn paratoi eu hunain trwy ymarfer y dechneg arnofio.
"Fe allai gwybod beth i'w wneud ar 么l syrthio i dd诺r oer fod y gwahaniaeth rhwng byw a marw."
Bydd yr ymgyrch yn cynnwys posteri a hysbysebion sinema, teledu, radio ac ar-lein.
Roedd Jude Rees yn naw oed ac yn nofiwr hyderus pan aeth i drafferthion fis Awst y llynedd. Cafodd ei rieni eu sgubo i greigiau wrth geisio mynd ato.
Llwyddodd Ms Saunders, nofiwr m么r profiadol, i'w gyrraedd wedi i'w mab ei hun geisio helpu'r bachgen.
Wrth iddi ei annog i arnofio a phwyllo, fe gofiodd Jude mai dyna oedd neges yr RNLI pan ymwelodd un o'u cynrychiolwyr 芒'i ysgol.
Yn y cyfamser, roedd un o'i frodyr ac ymwelwyr eraill 芒'r traeth wedi ffonio'r gwasanaethau brys.
Dywed Jude ei fod wedi treulio 20 munud yn y d诺r ond bod y cyfnod yn teimlo'n "hirach" na hynny.
"Roedd cryfder y cerrynt yn anhygoel," meddai ei dad, Paul. "Oll oedden ni'n gallu ei wneud oedd gwylio a gwedd茂o.
"Rydym yn gobeithio bod pobl yn dilyn cyngor yr RNLI oherwydd does dim amheuaeth gen i, bod y cyngor wedi helpu i'w achub y diwrnod hwnnw.
"Pan gyrhaeddodd y bad achub Jude roedd y cerrynt wedi ei sgubo ymhell o'r fan lle roedd yn padlo 25 munud ynghynt.
"Yn rhyfeddol, trwy arnofio ac osgoi gorflino roedd Jude yn dal 芒 rhywfaint o nerth ar 么l wrth gael ei godi o'r d诺r."