Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Sefydliad am daflu goleuni ar argyfwng iechyd meddwl
Mae ffrindiau a theulu merch ifanc o Gaerdydd, a laddodd ei hun, yn mynd ar daith feics ledled Cymru er mwyn sefydlu elusen yn ei henw i gynorthwyo pobl ifanc 芒 phroblemau iechyd meddwl.
Roedd Manon Jones yn ddisgybl yn Ysgol Plasmawr a newydd droi'n 16 oed.
Mae ei rheini Jeff a Nikki Jones, a'i chwaer Megan am greu i "gynnig cymorth a gwybodaeth ymarferol i bobl ifanc sy'n cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl".
Er mwyn helpu i lansio'r Sefydliad bydd gr诺p o ffrindiau a theulu yn beicio'r Lon Las- taith 250 o filltiroedd o Gaergybi i Gaerdydd - yn ystod G诺yl Banc y Sulgwyn.
Dywedodd mam Manon Jones, Nikki: "Roedd Manon yn gymeriad disglair, deinamig a thalentog - roedd yn ofalgar, yn gariadus ac yn angerddol.
"O'r tu allan roedd fel petae'r byd wrth ei thraed, ond y tu mewn iddi roedd yma lofrudd tywyll a distaw yn amsugno pob teimlad o bositifrwydd y gallai ddod o hyd iddo.
"Eto i gyd, hyd yn oed yn y misoedd tywyllaf hynny, byddai Manon yn llwyddo i ddod 芒 gw锚n a llond trol o garedigrwydd i unrhyw achlysur.
"Roedd Manon bob amser yn ceisio gwneud y byd yn lle gwell i bawb o'i chwmpas, felly rydym am greu'r Sefydliad i helpu i daflu goleuni yn yr argyfwng iechyd meddwl tywyllaf a lledaenu caredigrwydd dros rannau caletaf bywyd."
Nod y sefydliad hefyd yw helpu eu ffrindiau a'u teuluoedd, nad oes ganddynt unman yn aml i droi am gyngor ar sut i'w cefnogi.
Mae'r gr诺p ar y daith o'r gogledd yn cynnwys tad Manon, Jeff, athrawon o Ysgol Plasmawr a'i hysgol gynradd, Ysgol Treganna ynghyd 芒 rhieni ei ffrindiau a'i chymdogion
Y nod hefyd yw codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl pobl ifanc ar adeg pan fydd llawer ohonynt yn wynebu pryder ynghylch arholiadau.
'Cyrchfan addas'
Dywedodd Rhys Harries, Pennaeth Ysgol Treganna: "Roedd Manon yn ddisgybl gwych ac rydym i gyd yn ei cholli.
"Mae seiclo hyd Cymru i gyrraedd mewn pryd ar gyfer ymweliad Eisteddfod yr Urdd 芒 Chaerdydd yn fodd delfrydol i ddathlu Manon a sicrhau cefnogaeth hanfodol i bobl ifanc eraill. "
Fe wnaeth y beicwyr gychwyn o Gaergybi ddydd Gwener gan deithio drwy Borthmadog, Llanidloes ac Aberhonddu, cyn gorffen yn y brifddinas.
Bydd y gr诺p yn cyrraedd Bae Caerdydd am 16:30 ddydd Llun gan ddiweddu yn Eisteddfod yr Urdd.
Dywed ei theulu fod y man gorffen yn "gyrchfan addas er cof am Manon a oedd yn cystadlu'n rheolaidd yn yr Eisteddfod ac yn aelod gydol oes o'r Urdd. "