'Angen gwella gwasanaeth iechyd meddwl plant'
- Cyhoeddwyd
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi nodi bod angen gwella agweddau o wasanaeth iechyd meddwl plant a'r glasoed.
Diffyg gwelyau ar gyfer pobl ifanc sydd 芒 phroblemau iechyd meddwl "risg uchel" oedd un o brif bryderon adroddiad AGIC.
Tair uned arbenigol i gleifion sydd yng Nghymru, gyda lle i 51 o bobl.
Ond ers mis Rhagfyr, mae rhai cleifion o Gymru wedi cael eu symud o le gofal yng Nglyn Ebwy oherwydd pryderon am eu diogelwch, gan adael dim ond 27 o welyau.
Mae'r adolygiad wedi canolbwyntio ar y canlynol:
Gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS);
Gwasanaethau gofal iechyd cyffredinol i bobl ifanc;
Cefnogi pobl ifanc sydd 芒 chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd a gofal lliniarol;
Trosglwyddo o wasanaethau gofal iechyd plant i wasanaethau gofal iechyd oedolion.
Dywedai'r adolygiad fod pobl ifanc at ei gilydd yn cael profiadau da o ofal yn y gwasanaethau ond mae yna bryderon am allu unedau cleifion mewnol CAMHS yng Nghymru i letya pobl risg uchel.
Golyga hyn, medd yr adroddiad, nad yw pobl ifanc bob amser yn gallu cael gofal amserol yn agos at eu cartrefi a bod yn rhaid i rai ohonyn nhw gael eu lleoli y tu allan i'w hardaloedd.
Mae galw ar i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael 芒'r broblem hon. Maen nhw wedi cael cais am ymateb.
Mae yna bryder hefyd am yr heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth symud rhwng gwasanaethau plant ac oedolion.
Yn 么l yr adroddiad, mae angen i'r byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru wneud mwy o waith i sicrhau trefniadau trosglwyddo didrafferth ac effeithiol i bobl ifanc ledled Cymru i'w helpu wrth iddyn nhw ddod yn oedolion.
Dywed AGIC eu bod yn gobeithio y bydd yr adroddiad yn hybu gwelliant, ac y bydd y canfyddiadau a'r argymhellion yn cael eu hystyried yn ofalus gan Lywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2016