Mwy o gynlluniau rhannu car trydan cymunedol yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ceir trydanol cymunedol newydd yn cael eu lansio ledled Cymru er mwyn helpu'r amgylchedd a chysylltiadau teithio mewn ardaloedd gwledig.
Mae cynlluniau o'r fath yn gosod car mewn lleoliad canolog, ble gall pobl ei archebu i deithio i rywle ble dyw bysiau, trenau a thacsis ddim ar gael neu'n rhy ddrud.
Cafodd gynllun car cymunedol ei lansio yng Nghorwen yn Sir Ddinbych y llynedd, ac mae dau gar trydan wedi cael eu harchebu i ardaloedd gwledig yng Ngwynedd.
Mae siroedd Conwy a Wrecsam hefyd yn ystyried sefydlu cynlluniau tebyg.
Y syniad yw ei gwneud yn haws i bobl o ardaloedd gwledig fynychu cyfweliadau, apwyntiadau neu fynd i siopa.
'Trafnidiaeth yn broblem'
Yng Nghorwen, Nissan Leaf coch yw'r car trydan sy'n cael ei ddefnyddio, ac mae'r cynllun yn cael ei redeg gan Bartneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych.
Dywedodd prif swyddog y bartneriaeth, Margaret Sutherland bod y cynllun eisoes wedi profi'n llwyddiant.
"Ry'n ni wedi cael pobl sydd angen mynd i gyfweliad, er enghraifft," meddai.
"Byddan nhw'n gallu cyrraedd y swydd ar y bws, ond mae cyfweliadau'n gallu bod yn rhywle gwahanol neu ar amser anghyfleus.
"Mae'r car wedi bod o ddefnydd iddyn nhw, ac er ei fod yn gynllun peilot tair blynedd mae eisoes wedi profi ei werth.
"Roedd ymchwil wedi dangos bod trafnidiaeth yn broblem i bobl Corwen. Mae argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus wedi gostwng, felly roedden ni eisiau car cymunedol."
'Gr诺p cryf o wirfoddolwyr'
Mae asiantaeth Arloesi Gwynedd Wledig hefyd wedi archebu dau gar trydan, ac maen nhw'n chwilio am drefi neu bentrefi fyddai eisiau rhedeg cynllun rhannu car.
"Mae trafnidiaeth yn broblem oherwydd toriadau, felly dyma beilot i weld os mai cynllun rhannu ceir trydan yw'r ateb," meddai swyddog y cynllun, Carwyn ap Myrddin.
"Bydd angen gr诺p cryf o wirfoddolwyr lleol i gael y defnydd gorau o'r car, yn enwedig am y gallan nhw hefyd gynnig bod yn yrwyr i'r rheiny sydd angen teithio ond sydd ddim yn gallu gyrru."
Ond mae o leiaf un cynllun o'r fath yng Nghymru wedi dod i ben.
Cafodd y cynllun cyntaf o'r fath ei sefydlu yng Nghilgwyn yng ngogledd Sir Benfro yn 2013, cyn i ail gynllun gael ei lansio yn Nhyddewi yn fuan wedi hynny.
'Rhy wledig i weithio'
Ond dywedodd Andy Dixon, wnaeth helpu sefydlu'r cynllun yn Nhyddewi, ei fod wedi dod i ben ar 么l blwyddyn.
"Os unrhyw beth, roedd yn rhy wledig i weithio'n iawn," meddai.
"Roedd gennym ni bobl yn gyrru i Dyddewi yn eu ceir eu hunain i ddod i 'n么l yr un trydan.
"Roedd yr yswiriant hefyd yn golygu nad oedd pobl dan 25 oed yn gallu ei yrru, er mai nhw oedd y gr诺p 芒'r angen mwyaf am rannu car."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd18 Medi 2018