Diffodd tanau glaswellt milltir o hyd ar ochrau mynyddoedd

Ffynhonnell y llun, Rhian Grundy

Disgrifiad o'r llun, Roedd modd gweld "cylch perffaith o d芒n" ar y Rhigos, yn 么l un o'r trigolion lleol

Mae diffoddwyr t芒n wedi llwyddo i ddiffodd tanau glaswellt mawr ar ochrau mynyddoedd yn y de-ddwyrain.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i fynydd Maerdy yn Rhondda Cynon Taf toc wedi 17:30 nos Lun, lle'r oedd 88 hectar o ochr y mynydd ar d芒n.

Ychydig wedi hynny, cafodd diffoddwyr t芒n eu galw i d芒n 50 hectar - tua milltir o hyd - yn y Rhigos, gyda gwyntoedd cryfion yn achosi iddyn nhw ledaenu'n gyflym.

Dywedodd Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru bod criwiau wedi llwyddo i ddiffodd y tannau erbyn bore dydd Mawrth.

Yn 么l Rhian Grundy, sy'n byw yn Llwydcoed yn Aberd芒r, roedd modd gweld "cylch perffaith o d芒n" ar y Rhigos o'i th欧.

Bu'n rhaid i'r gwasanaeth t芒n hefyd ddiffodd tanau ym Mrynmenyn, Pen-y-bont, Treharris ym Merthyr Tudful, Gilfach Goch yn Rhondda Cynon Taf ac ym Mhontardawe.