91热爆

Tanau glaswellt milltir o hyd ar ochrau mynyddoedd

  • Cyhoeddwyd
RhigosFfynhonnell y llun, Rhian Grundy
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tan a mwg i'w weld ar lethrau'r Rhigos yn Rhondda Cynon Taf

Mae diffoddwyr t芒n yn brwydro yn erbyn tanau glaswellt mawr ar ochrau mynyddoedd yn y de-ddwyrain.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i fynydd Maerdy yn Rhondda Cynon Taf toc wedi 17:30, lle mae 88 hectar o ochr y mynydd ar d芒n.

Ychydig wedi hynny, cafodd diffoddwyr t芒n eu galw i d芒n 50 hectar - tua milltir o hyd - yn y Rhigos, gyda gwyntoedd cryfion yn achosi iddyn nhw ledaenu'n gyflym.

Dywedodd Rhian Grundy, sy'n byw yn Llwydcoed yn Aberd芒r, ei bod yn gallu gweld "cylch perffaith o d芒n" ar y Rhigos o'i th欧.

Bu'n rhaid i'r gwasanaeth t芒n hefyd ddiffodd tanau ym Mrynmenyn, Pen-y-bont, Treharris ym Merthyr Tudful, Gilfach Goch yn Rhondda Cynon Taf ac ym Mhontardawe.