Carchardai: Defnyddio swyddogion terfysg dros 50 o weithiau
- Cyhoeddwyd
Cafodd t卯m o swyddogion el卯t sy'n arbenigo mewn ymdrin 芒 therfysg mewn carchardai eu defnyddio dros 50 o weithiau yng Nghymru'r llynedd.
Daw'r ffigyrau yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan y 91热爆, a oedd yn dangos bod y t卯m wedi ymateb i:
30 o ddigwyddiadau yng Ngharchar y Parc, Pen-y-Bont;
16 yng Ngharchar Berwyn, Wrecsam;
5 yng Nghaerdydd
Carchar Abertawe oedd yr unig leoliad oedd heb wneud defnydd o'r swyddogion terfysg.
Roedd Cymdeithas y Swyddogion Carchardai yn beio diffyg staff, cynnydd mewn trais, problemau cyffuriau, mynediad i ffonau symudol a gorlenwi.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod y rhan fwyaf o'r galwadau allan ar gyfer digwyddiadau di-drais.
Roedd y rhan fwyaf o'r galwadau allan yn 2018 yng Nghymru a Lloegr yn cynnwys carcharorion yn dringo ar doeau neu rwydi diogelwch ac roedd mwy na 30 o sefyllfaoedd gwystlon.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2019