91热爆

Galw am agor ysgolion Cymraeg yn unig yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Glantaf, Plasmawr a Bro EdernFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae yna dair ysgol uwchradd Cymraeg yng Nghaerdydd - Glantaf, Plasmawr a Bro Edern - ond mae 'na ddarogan y bydd yna un ychwanegol o fewn degawd

Mae dros 35 o enwogion yn galw ar Gyngor Caerdydd i sicrhau mai dim ond ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg fydd yn cael eu hagor yn y ddinas yn y dyfodol.

Mewn llythyr i gabinet y cyngor, maen nhw'n dadlau bod y ddinas 芒 "r么l allweddol i'w chwarae" os am gyrraedd y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a bod y ddarpariaeth bresennol yn "annigonol".

Ymhlith y llofnodwyr mae'r actorion Mali Harries a Sharon Morgan, y cerddorion Cian Ciar谩n a Heather Jones, yr awduron Jon Gower a William Owen Roberts, a'r Prifeirdd Gruffudd Eifion Owen a Catrin Dafydd.

Dywed Cyngor Caerdydd eu bod yn ehangu addysg Gymraeg yn y sir "mewn ffordd strategol" er mwyn osgoi tanseilio sefydlogrwydd ariannol yr ysgolion Cymraeg presennol a rhai newydd yn y dyfodol.

Mae'r llythyr yn dweud bod y cyngor, fel mae pethau'n sefyll, "yn bell o gyrraedd ei dargedau o ran canran y disgyblion sydd mewn addysg Gymraeg yn y sir er mwyn cyfrannu at y nod genedlaethol.

"Mae mwy a mwy o rieni, o bob cefndir, yn dymuno gweld eu plant yn tyfu'n oedolion sy'n gallu siarad Cymraeg. Ond ar hyn o bryd, mae darpariaeth addysg Gymraeg yng Nghaerdydd yn hollol annigonol.

"Mae teuluoedd ar draws y ddinas yn cael eu troi i ffwrdd o addysg Gymraeg gan fod ysgolion yn orlawn.

"Mae rhai o'r plant o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig yn cael eu rhwystro rhag cael mynediad at ein hiaith a'r holl gyfleoedd mae hi'n eu cynnig oherwydd diffyg gwybodaeth a diffyg darpariaeth.

"Rydym yn galw arnoch i drawsnewid y sefyllfa hon ac i sicrhau bod y Gymraeg ar gael i bawb yn y ddinas, o Laneirwg i Drelai."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r actores Sharon Morgan ymhlith 36 o bobl amlwg sydd wedi llofnodi'r llythyr i'r cyngor

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd yn galw ar y cyngor i "ddangos yr uchelgais a'r arweiniad sydd ei angen er mwyn sicrhau addysg Gymraeg i bawb yn ein prifddinas" ac i arwain y ffordd yn yr ymdrech i sicrhau miliwn o siaradwyr.

Dywedodd llefarydd addysg y Gymdeithas, Mabli Siriol: "Fel dinas fwyaf Cymru, mae gan Gaerdydd gyfraniad allweddol i'w wneud os ydym am gyrraedd y nod cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

"Yn anffodus, ar hyn o bryd, nid yw'r twf mewn addysg Gymraeg yn y ddinas yn ddigonol i fodloni'r galw mawr sydd am lefydd mewn ysgolion Cymraeg, na chwaith i Gaerdydd gyrraedd y targedau lleol ar y daith tuag at 2050.

Adlewyrchu'r galw

Mewn datganiad ar ran Cyngor Caerdydd, dywedodd llefarydd bod cydymffurfio 芒'r ddeddfwriaeth wrth ddarparu addysg "yn fater cymhleth" gan gwmpasu ffactorau fel dewisiadau rhieni a'r anghenion lleol wrth ystyried codi ysgol newydd.

Dywedodd yr aelod o'r cabinet sy'n gyfrifol am addysg a'r dirprwy arweinydd, y Cynghorydd Sarah Merry: "Bydd ein capasiti cyfrwng Cymraeg yn parhau i adlewyrchu'r galw at ei gilydd, gan sicrhau sefydlogrwydd ariannol ein hysgolion Cymraeg presennol, a fyddai dan bwysau petawn ni'n creu llefydd ychwanegol yn rhy gyflym.

"Trwy gynyddu addysg Gymraeg mewn ffordd strategol, rydym yn sicrhau bod ein hysgolion newydd 芒 sail ariannol gryf; ein hysgolion Cymraeg presennol yn parhau'n gynaliadwy; a bod yr ysgolion rydyn yn eu cynnig yn diwallu'r amrywiaeth dewisiadau rhieni yng Nghaerdydd."

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf, meddai, yn awgrymu "cynnydd calonogol" yn y galw am lefydd mewn ysgolion uwchradd Cymraeg yn y blynyddoedd nesaf.

Dywedodd bod yna lefydd gwag ar hyn o bryd yn nhair ysgol uwchradd Cymraeg y ddinas a bod modd i'r rheiny ddygymod 芒'r cynnydd mewn galw yn y tymor byr a chanolig.

Ychwanegodd bod y cyngor wedi codi neu ymestyn nifer o ysgolion Cymraeg yn y ddinas ers 2012, ac ehangu'r ganolfan trochi iaith fel bod mwy o ddisgyblion yn gallu symud o ysgol Saesneg i ysgol Gymraeg.

Mae yna hefyd gynlluniau i ddyblu maint Ysgol Nant Caerau ac Ysgol Pen y Pil, meddai, a bydd y cyngor yn defnyddio cyfraniadau gan ddatblygwr tai dan Adran 106 y Cynllun Datblygu Lleol i dalu am ragor o lefydd mewn ysgolion Cymraeg.