Gwella 11 o orsafoedd rheilffordd ar gyfer pobl anabl
- Cyhoeddwyd
Bydd 11 o orsafoedd rheilffordd yng Nghymru yn cael arian gan Lywodraeth y DU er mwyn gwella'r mynediad ar gyfer teithwyr anabl.
Fe fydd yna welliannau yn naw o orsafoedd y de - Y Fenni, Caerffili, Cwmbran, Dinbych-y-Pysgod, Y Barri, Cathays, Llanelli, Trefforest a Thregatwg - a dwy yn y gogledd, sef Y Fflint a Shotton.
Y gobaith yw y bydd yr holl waith wedi ei gwblhau erbyn Mawrth 2024, gan wneud hi'n haws i bobl anabl deithio'n amlach ar y trenau.
Mae'r orsafoedd ymhlith 73 ar draws y DU fydd yn derbyn cyfran o 拢300m dan y gronfa Mynediad i Bawb.
O ganlyniad i'r gwelliannau bydd teithwyr anabl ddim yn gorfod wynebu grisiau yn achos 75% o deithiau maes o law, a bydd pontydd troed a lifftiau yn cael eu huwchraddio.
Bydd yna f芒n welliannau hefyd yn nifer o orsafoedd eraill ar draws y DU, gan gynnwys palmentydd cyffyrddiadwy ar ymyl platfformau a chownteri tocynnau y mae modd eu haddasu.
Y gobaith yw y bydd y camau o fudd hefyd i deithwyr eraill, gan gynnwys pobl oedrannus, pobl 芒 chyflyrau iechyd amrywiol a phobl sy'n teithio gyda phlant neu'n cario bagiau a chesys trwm.
Wrth gyhoeddi'r manylion mae'r Gweinidog Hygyrchedd Trafnidiaeth, Nusrat Ghani yn pwysleisio'r awydd i roi hyder i'r 13.9 o bobl anabl ym Mhrydain deithio'r annibynnol ar y trenau.
Roedd y ffactorau, wrth benderfynu pa orsafoedd sydd yn derbyn arian, yn cynnwys niferoedd teithwyr, gwerth am arian a pha mor agos yw'r ysbyty agosaf.
Mae'r gwaith sydd eisoes wedi ei gwblhau yng Nghymru ers dechrau'r rhaglen Mynediad i Bawb yn 2006 yn cynnwys lifftiau a phontydd troed newydd yn Radyr, Machynlleth a Wrecsam, a gwelliannau i'r grisiau ac ardal y gi芒t docynnau yng ngorsaf Castell-nedd.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns bod y gwelliannau "yn gyson ag ein hymroddiad i adeiladu rheilffordd fwy a gwell i Gymru".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd6 Mai 2018