Newidiadau i safle'r Eisteddfod yn sgil pryderon diogelwch

Disgrifiad o'r fideo, Betsan Moses: Parhau yn Llanrwst yn 'flaenoriaeth'

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi y bydd newidiadau yn cael eu gwneud i safle'r maes eleni yn Llanrwst yn sgil pryderon diogelwch.

Yn dilyn adroddiadau technegol sy'n manylu ar risgiau llifogydd ar y safle, daeth hi'n amlwg na ellir yswirio'r Eisteddfod ar sail y cynlluniau presennol.

O ganlyniad, fe benderfynodd Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod bod rhaid addasu'r cynlluniau.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses wrth y Post Cyntaf fod gan yr Eisteddfod "wersi i'w dysgu".

Cafodd safle Eisteddfod Genedlaethol 2019 ei ddifrodi yn ddiweddar o ganlyniad i lifogydd yn ardal Llanrwst.

Mae'r Eisteddfod bellach yn ceisio sicrhau datrysiad sy'n golygu nad oes angen dewis safle newydd sbon i Brifwyl 2019.

Dywedodd Ms Moses eu bod nhw'n ceisio rhoi datrysiad yn ei le mor fuan 芒 phosib.

"Fe fyddwn yn ail-lunio'n cynlluniau presennol ac ystyried opsiynau i ddefnyddio tiroedd eraill sy'n ffinio ar y safle," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llyr Serw ap Glyn

Disgrifiad o'r llun, Roedd cerrig yr orsedd, Llanrwst dan dd诺r yn dilyn y tywydd garw wythnos diwethaf

"Rydym yn obeithiol bod modd datrys y problemau drwy wneud hynny, ond os bydd angen, fe fyddwn yn edrych y tu hwnt i'r safle sydd gennym ar gyfer datrysiad."

Ychwanegodd: "Fe allai hynny olygu gorfod symud prif safle'r Maes, ond rydym yn gweithio'n galed i osgoi hynny wrth reswm."

'Dydyn nhw ddim yn gwrando'

Dywedodd Sion Jones, sy'n byw yn lleol, wrth raglen Taro'r Post 91热爆 Radio Cymru bod yr Eisteddfod wedi anwybyddu rhybuddion gan bobl leol am y safle.

"Gan 'mod i wedi byw yn Llanrwst ac yn byw yn Abergele r诺an, dwi'n 'nabod yr ardal yn eitha'," meddai.

"Y broblem 'efo pobl Steddfod ydy, dydyn nhw ddim yn gwrando ar bobl leol sy'n gwybod yn well be' ydy'r manteision o gael y Steddfod yn y cae yma neu gae arall."

Ychwanegodd Mr Jones, pan gafodd y Brifwyl ei chynnal ar gaeau cyfagos yn 1989, eu bod wedi bod yn lwcus bryd hynny am i'r caeau fod dan dd诺r ychydig wythnosau'n unig wedi i'r Eisteddfod ddod i ben.

Nid oedd yr Eisteddfod am ymateb i'r sylw, ond ar y rhaglen dywedodd Ms Moses ei bod yn "ymwybodol iawn bod rhaid i ni gynnal ymchwiliad llawn am sut daethon ni i'r penderfyniad yma".

'Risgiau sylweddol'

Mae'n "rhaid canmol y penderfyniad i gymryd camau pendant i ddatrys y sefyllfa", yn 么l Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, Trystan Lewis.

"Dros yr wythnos ddiwethaf, 'dan ni wedi gweld effeithiau posib llifogydd yn ardal Llanrwst ac mae'n glir iawn bellach bod yna risgiau iechyd a diogelwch sylweddol yn perthyn i rannau o'r safle."

"Rydym yn mawr obeithio y bydd modd cadw'r safle mor agos 芒 phosib at Lanrwst - a hynny er mwyn i Eisteddfodwyr a phobl leol gael rhannu'r buddion o hynny," meddai.

Yn 么l Sian Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru, dyw cynnal digwyddiad o'r fath ar orlifdir "ddim yn ddelfrydol".

Dywedodd Ms Williams wrth 91热爆 Radio Cymru: "Un peth sydd angen ei ystyried yn y dyfodol ella yw ein bod ni yn cynghori yn gynharach yn y broses gynllunio er mwyn sicrhau bod safleoedd yn cael eu dewis lle mae'r risg o lifogydd yn is."